Ysbyty Blaenau Ffestiniog - dan fygythiad
Bydd pwyllgor newydd a sefydlwyd i frwydro yn erbyn toriadau i wasanaethau ysbytai yng ngogledd Cymru, yn creu “ffrynt unedig” er mwyn uno pob ymgyrch lleol.
Cafodd Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru ei sefydlu mewn cyfarfod yn Llanelwy neithiwr, gan ymgyrchwyr sydd am herio penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau nifer o ysbytai lleol a symud gofal babanod allan o Gymru.
Roedd ymgyrchwyr yn cynrychioli’r holl ysbytai sydd dan fygythiad yn y cyfarfod, a dywedodd Cadeirydd y Gynghrair, Mabon ap Gwynfor, y byddai’r pwyllgor yn “uno pob ymgyrch leol ar draws y gogledd.”
“Y bwriad cyntaf yw ystyried her gyfreithiol i’r penderfyniad i gau a chanoli gwasanaethau iechyd lleol. Rydym mewn trafodaethau i weld pa mor fregus yn gyfreithiol yw penderfyniad y bwrdd iechyd i gwtogi ar wasanaethau hanfodol.”
“Credwn ein bod mewn lle cryf i herio’r penderfyniadau”
Dywedodd Mabon ap Gwynfor bod cynnig o ddiffyg hyder yn Betsi Cadwaladr wedi ei basio gan fod cynlluniau’r bwrdd iechyd yn peryglu iechyd trigolion gogledd Cymru.
“Rydan ni’n credu fod yr ymgynghoriad yn wallus, yn gamarweiniol ac yn mynd i beryglu bywydau cleifion, boed yn henoed yn y gymuned neu’n fabanod newydd anedig sy’n gorfod cael gofal dwys.”
“Oherwydd hynny, pasiwyd cynnig o ddiffyg hyder yn y bwrdd iechyd neithiwr. Hefyd gwnaeth y cyfarfod ofyn i’r Cyngor Iechyd Cymunedol i wneud mwy o ran adlewyrchu barn y gymuned.”
Ysbytai’n cau drwy’r drws cefn
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, y cam nesaf fydd denu sylw y Gweinidog Iechyd er mwyn sicrhau nad yw ysbytai yn cau tra bod ymgynghoriad Betsi Cadwaladr yn dal i fynd ymlaen.
“Ein prif neges yw erfyn ar y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i atal cau ysbytai cymunedol drwy’r drws cefn – ar hyn o bryd mae’r bwrdd iechyd yn cau ysbytai cyn i’r ymgynghoriadau orffen drwy wrthod mynediad i gleifion newydd.”
“Mae hynny’n gwbl anghywir tra bod yr ymgynghoriad dal yn mynd yn ei flaen.”
Bydd y Gynghrair yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i ddenu sylw at y mater, gan gynnwys gorymdaith fawr yn Llandudno ddydd Sadwrn 23 Chwefror.
Gorymdaith Blaenau
Roedd gorymdaith ym Mlaenau Ffestiniog dros y penwythnos yn “llwyddiant ysgubol” yn ôl cadeirydd ymgyrch Blaenau, Geraint Vaughan Jones. Daeth dros 800 o bobol i’r dref i gefnogi’r gwaith i achub yr ysbyty cymunedol.
“Roeddwn i yno neithiwr yn cynrychioli Blaenau a chefnogi’r penderfyniad i ffurfio pwyllgor,” meddai Geraint Vaughan Jones.
“Rydyn ni yma ym Mlaenau wedi gofyn am gyngor cyfreithiol, ac yn gobeithio cael penderfyniad os bydd achos barnwrol yn fuan. Yn y cyfamser, rydym ni’n gefnogol o waith y Gynghrair Iechyd.”