Tai am brisiau rhesymol a chyflogau gwell yw’r atebi gadw pobol ifanc yn eu cymunedau, meddai Prif Weinidog Cymru.

Fe ddywedodd Carwyn Jones wrth gylchgrawn Golwg fod y Llywodraeth wedi ystyried rhoi ‘cap’ ar dai haf mewn ardaloedd ond bod diffinio ‘tŷ haf’ neu ‘ail dŷ’ wedi bod yn rhy anodd.

Roedd yn mynnu nad rhoi’r gorau i adeiladu tai newydd oedd yr ateb, chwaith – roedd mwy na 2,500 o dai wedi eu codi yn ystod oes y Llywodraeth hon, ond roedd angen gwneud mwy.

Does dim modd atal pobol rhag symud i mewn i Gymru, meddai, ond y peth pwysig yw gwneud yn siŵr fod yna ddigon o dai o fewn cyrraedd i bobol ifanc.

“Dw i ddim yn credu na ddylech chi ddim adeiladu tai,” meddai. “Wrth wneud hynny, chi’n sicrhau bod dim tai ar gael i bobol ifanc.”

Yr “angen lleol yw popeth”, meddai.

Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg – a gwybodaeth am Gynhadledd Fawr’ y Llywodraeth.