Mae heddlu’n sy’n chwilio am gefnogwr rygbi sydd ar goll ers 11 diwrnod am ddefnyddio offer sonar er mwyn chwilio’r afon Elai.

Diflannodd Ben Thompson, 34 o Hwlffordd, ar ôl mynd i Gaerdydd i wylio’r gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon ar Chwefror 2.

Mae’r chwilio amdano ar y tir wedi dod i ben, medd Heddlu De Cymru, ac mae’r ffocws yn troi at yr afon. Yfory bydd offer sonar yn cael ei ddefnyddio rhwng pont Bryn Lecwydd ac aber afon Elai, ger clwb hwylio Bae Caerdydd.

Camerâu cylch cyfyng

Mae camerâu cylch cyfyng yn dangos Ben Thompson yn croesi Heol Lecwydd i Lawrenny Avenue tua 7.17pm ar Chwefror 2, cyn cymryd llwybr o ddiwedd y ffordd honno i gyfeiriad tir wast.

Nid yw ei ffôn symudol wedi cael ei ddefnyddio yn y cyfamser ac mae’r heddlu’n apelio am unrhyw wybodaeth amdano. Rhif ffôn yr ystafell reoli yw 02920 338 465.

Mae Ben Thompson yn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra, â llygaid glas, ac roedd yn gwisgo jîns glas a chrys gwyn pan gafodd ei weld ddiwethaf, a bŵts lledr brown.