Ian Brady
Ni fydd dynes o ardal Llanelli yn wynebu cyhuddiadau dros honiadau ei bod hi wedi gwrthod datgelu cynnwys llythyr gan y llofrudd Ian Brady.

Roedd Jackie Powell o Langennech, eiriolwr iechyd meddwl Ian Brady, wedi cael ei harestio’r llynedd ar amheuaeth o atal corff rhag cael ei gladdu. Roedd hi wedi dweud wrth raglen deledu fod Ian Brady wedi rhoi amlen iddi basio at Winnie Johnson, mam i fachgen a gafodd ei ladd gan Brady a Myra Hindley yn 1964.

Ni ddaeth y llythyr fyth i glawr a bu farw Winnie Johnson ym mis Awst heb wybod ymhle roedd corff ei mab, Keith Bennett.

Dim sôn o’r llythyr

Dywedodd John Dilworth o Wasanaeth Erlyn y Goron na fydd Jackie Powell yn wynebu cyhuddiadau.

“Nid yw’n bosib dweud a oedd hi’n gwybod am gynnwys y llythyr, a yw’r llythyr yn bodoli, na chwaith pa wybodaeth a allai fod yn y llythyr.”

“Yr unig dystiolaeth o fodolaeth y llythyr yw sylwadau Ms Powell mewn cyfweliad a dywedodd hi’n unig ei bod hi’n credu y gallai gynnwys gwybodaeth am Keith Bennett.

“Ni fyddai’n bosib profi mewn llys barn fod Ms Powell wedi atal corff Keith Bennett rhag cael ei gladdu, na chwaith wedi bwriadu gwneud hynny,” meddai John Dilworth.

Mae wedi ysgrifennu at frawd Keith Bennett i esbonio’r penderfyniad ac wedi cynnig cwrdd ag e.

‘Dioddef yn enbyd’

Yn ôl Martin Bottomley o Heddlu Manceinion, ni ddaeth y llythyr am leoliad gweddillion Keith Bennett i glawr er chwilio tŷ Jackie Powell a chell Ian Brady.

“Mae Winnie Johnson a gweddill ei theulu wedi dioddef yn enbyd,” meddai.

“Mae gan Keith berthnasau o hyd sy’n haeddu gwybod y gwir a bydd Heddlu Manceinion yn parhau i weithredu ar unrhyw dystiolaeth gredadwy er mwyn dod â’r gwewyr i ben.”

Mae Ian Brady yn 75 oed ac yn cael ei gadw yn Ysbyty Meddwl Ashworth lle mae wedi gwrthod bwyta ers 13 mlynedd.