Fe gafodd tair rali brotest eu cynnal yn Llydaw dros y penwythnos yn galw am sianel deledu ddwyieithog i’r rhanbarth.

Cafodd ralïau eu cynnal yn Naoned (Nantes), Brest ac yn ninas Roazhon (Rennes) ble creodd rhai cannoedd o ymgyrchwyr gadwyn ddynol o amgylch pencadlys sianel ranbarthol France 3 Bretagne.

“Yr unig rwystrau i greu sianel ddwyieithog i Lydaw yw’r rhai gwleidyddol,” meddai Kilian Gastinger o fudiad iaith Ai’ta!

Dywedodd yr aelod seneddol Paul Molac, sy’n cynrychioli ardal y Morbihan, y byddai sianel deledu ddwyieithog o fudd i iaith ac economi Llydaw, ac yn cyflwyno delwedd o Lydaw i’r byd y tu allan.

Mae bron 6,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am “wir sianel ddwyieithog gyhoeddus i Lydaw.”

Yn ôl y ddeiseb mae’r nifer o raglenni am Lydaw ar France 3 Bretagne wedi gostwng ac mae ymgyrchwyr yn galw am sianel sy’n debyg i Via Stella yn Corsica.