Mae’r chwilio am Ben Thompson, 34 o Hwlffordd, yn parhau.

Fe ddiflannodd Ben Thompson ar ôl gêm rygbi Cymru yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd wythnos i ddydd Sadwrn diwetha’.

Mae camerâu cylch cyfyng yn ei ddangos yn croesi Heol Lecwydd i Lawrenny Avenue tua 7.17pm ar Chwefror 2, cyn cymryd llwybr o ddiwedd y ffordd honno i gyfeiriad tir wast.

Mae timoedd yn parhau i chwilio amdano, yn enwedig mewn coedwigoedd, ar lan yr afon Elai, ac ar ymyl ffordd yr A4232.

Does neb yn honni iddyn nhw ei weld ers Chwefror 2, a dyw ei ffôn symudol ddim wedi cael ei ddefnyddio o gwbwl.