Yn dilyn cyfarfod gyda Carwyn Jones ddydd Mercher diwetha’, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi ail-ddechrau ymgyrchu – trwy osod sticeri mewn mannau amlwg yn Llandeilo a Chaerfyrddin.

Maen nhw am bwysleisio’r angen ar i’r Llywodraeth weithredu ar frys er mwyn diogelu dyfodol yr iaith Gymraeg. 

“Oherwydd i ganlyniadau’r Cyfrifiad ddangos cymaint o ddirywiad yn nifer ein cymunedau Cymraeg fe wnaethon ni benderfynu trefnu rali frys er mwyn cyfleu ein neges,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.

“Gobeithio fod ei ymateb yn y cyfarfod yn dangos i Carwyn Jones wrando ac y bydd yn gweithredu ar hynny.

“Mae’n bwysig felly ein bod yn parhau i bwyso ar bob lefel o awdurdod. Fe wnaeth canoedd droi allan i’r rali yn Aberystwyth a’r raliau ar draws Cymru felly mae angen i Carwyn Jones a’i Lywodraeth a’n Cynghorau Sir weithredu ar frys.”

Galwadau

Yn ei ‘Maniffesto Byw’, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhestru 26 argymhelliad er mwyn cryfhau’r iaith.

Mae’r rhain yn cynnwys trawsnewid y system gynllunio er mwyn taclo allfudo a mewnfudo; system addysg lle mae pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Gymraeg; yn ogystal â buddsoddi yn yr iaith; a mesur ôl-troed ieithyddol holl wariant y Llywodraeth. 

“Cyfarfod adeiladol”

“Fe gawsom ni gyfarfod adeiladol gyda Carwyn Jones ar y 6ed o Chwefror,” meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith. “Dw i’n falch ei fod wedi cydnabod bod angen gweithredu ar frys yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad.

“Mae o wedi cytuno i ymateb yn llawn i’r 26 argymhelliad erbyn Mehefin 6, ac wedi cytuno i gwrdd â ni eto yn y dyfodol agos.”