Mae cyhoeddiad newydd sy’n rhoi sylw i’r gwaith a wneir gan Hybu Cig Cymru ar ran y diwydiant cig coch yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu i 40,000 o gartrefi ledled Cymru’r wythnos hon.

Mae Cefn Gwlad yn gylchgrawn dwyieithog sy’n rhoi manylion am weithgareddau HCC dros y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal â chyfweliadau â’r Prif Weithredwr Gwyn Howells ac uwch reolwyr ynglŷn â’u cynlluniau ar gyfer 2012 a thu hwnt.

Ei nod yw tynnu sylw at yr amrediad eang o waith sy’n cael ei wneud gan HCC ar ran y rhai sy’n talu ardoll iddo – gan gynnwys yr ymchwil a datblygu gan dîm HCC er datblygu’r diwydiant, ymdrechion marchnata ym Mhrydain ac ar draws y byd, a sut caiff y gwaith hwn ei gyfathrebu.

“Mae bwrdd a staff HCC wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn i gynnal diwydiant cig coch cynaliadwy a phroffidiol yng Nghymru trwy ddarparu amrediad eang o wasanaethau economaidd i’r sector, a hyrwyddo gweithgareddau iechyd ac addysg i blant ac oedolion yn gyffredinol,” meddai Mr Howells.

“Mae Cefn Gwlad nid yn unig yn bwrw golwg yn ôl dros weithgareddau HCC yn ystod y flwyddyn flaenorol ond hefyd yn rhoi sylw i rai o’r mentrau sydd ar y gweill ar gyfer y misoedd nesaf er mwyn cryfhau’r diwydiant cig coch yng Nghymru fwyfwy.”