Mae aelod o Geredigion wedi llwyddo i ennill y dwbwl yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru heno (nos Sadwrn, Tachwedd 17).
Roedd Megan Elenid Lewis eisoes wedi cyflawni’r un gamp yn eisteddfod ei sir ei hun bythefnos yn ôl, cyn i’w gweithiau buddugol fynd yn eu blaenau i gystadlu yn erbyn enillwyr gweddill siroedd Cymru yn y genedlaethol.
Mae’n aelod o glwb Trisant, ac yn gweithio fel cyfieithydd.
Ers rhai blynyddoedd, mae’r Gadair yn cael ei chynnig am gerdd, a’r Goron am y gwaith rhyddiaith gorau.
Y beirniaid eleni oedd Catrin Haf Jones a Gwennan Evans – y tro cyntaf erioed i eisteddfod Cymru gael ei chynnal ym Mro Morgannwg, yn nhref Y Barri.