Liz Saville-Roberts AS
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts yn galw ar aelodau o’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o droseddau yn erbyn bywyd gwyllt gan hysbysu unrhyw ymddygiad amheus i uned arbennig Heddlu Gogledd Cymru.

Fel rhan o Gynllun Heddlu y Senedd, treuliodd yr Aelod Seneddol ddiwrnod â PC Dewi Evans o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru sydd â chyfrifoldeb am ymchwilio i droseddau amaethyddol, bywyd gwyllt ac amgylcheddol ynghyd â lladrad anifeiliad a troseddau wedi eu targedu’n benodol ar gymunedau cefn gwlad.

Yn ystod yr amser treuliodd Liz Saville Roberts gyda’r heddwas, cawsant eu galw i ddigwyddiad ym Mhontllyfni lle roedd mochyn daear wedi marw yn sgil ymosodiad gan yr hyn a ymddangosai fel gwialen ddur ac ymosodiad gan gi.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Yn anffodus, mae’r math yma o greulondeb yn erbyn bywyd gwyllt yn broblem cyffredin ar draws cymunedau gwledig Gogledd Cymru.

“Byddwch yn hyderus, os ydych yn dod ar draws y fath drosedd neu’n amau fod trosedd o’r fath wedi ei chyflawni – bydd yr heddlu yn siwr o ymchwilio gan wneud popeth o fewn eu gallu i ddal y rhai sy’n gyfrifol am achosi dioddefaint i’n bywyd gwyllt gan eu dwyn i gyfrif.

“Rwyf felly yn annog y cyhoedd i wneud defnydd o’r gwasanaeth arbenigol yma a chysylltu â’r Tîm Troseddau Gwledig ar 101 os ydynt yn amau fod trosedd wedi’i chyflawni. Mae’r tîm yn barod i helpu.”