Owen Smith
Mae ymgeisydd yn ras i fod yn arweinydd nesa’r Blaid Lafur wedi cael ei ddisgrifio fel un “anaddas i ddal uchel-swydd” ar ôl iddo awgrymu y dylid cynnal trafodaethau heddwch gyda’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) er mwyn dod â’r rhyfel cartref yn Syria i ben.

Yn y ddadl arweinyddiaeth diweddaraf, dywedodd AS Pontypridd y dylai pob ochr sy’n rhan o’r gwrthdaro gael eu dwyn i mewn i’r trafodaethau os yw pobl eisiau i’r rhyfel ddirwyn i ben.

Dywedodd aelod Ceidwadol o Bwyllgor Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin a chyn swyddog yn y fyddin, Johnny Mercer, bod sylwadau Owen Smith yn dangos ei “anaddasrwydd ar gyfer arweinyddiaeth”.

Dywedodd llefarydd ar ran Jeremy Corbyn fod y sylwadau yn rhai “brysiog oedd heb eu hystyried yn iawn.” Yn wahanol i Owen Smith, mae arweinydd Llafur yn mynnu nad oes lle i’r grŵp brawychol mewn trafodaethau heddwch.

Gofynnwyd iddo gan y cyflwynydd Victoria Derbyshire yn y ddadl os dylai IS gael eu cynnwys mewn trafodaethau heddwch, cyfeiriodd Owen Smith at ei amser fel cynghorydd arbennig i ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Paul Murphy i ddadlau y dylai pob ochr sy’n rhan o’r gwrthdaro gymryd rhan.

Yn ddiweddarach, dywedodd llefarydd ar ran Owen Smith ei fod yn credu na alla’i trafodaethau ddigwydd gyda IS oni bai eu bod “ymwrthod trais, yn dod a’i weithredoedd brawychol i ben ac ymrwymo eu hunain i setliad heddychlon”.