Mae’r Ceidwadwyr Cymreig heddiw wedi datgelu data sy’n dangos y nifer “syfrdanol” o welyau ysbyty a gafodd eu colli yng Nghymru y llynedd oherwydd alcohol, camddefnyddio cyffuriau a chamgymeriadau llawfeddygol.
Mewn 2,672 o achosion collwyd gwelyau am gyfnod o 24 awr o ganlyniad i 1,754 o gleifion a gafodd eu derbyn i’r ysbyty am driniaeth yn gysylltiedig â digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Roedd nifer yr achosion sy’n ymwneud â hunan-wenwyno bwriadol gyda chyffuriau yn cyfrif am 1,965 o welyau coll.
Camgymeriadau
Collwyd 2,110 o ddyddiau gwely oherwydd camgymeriadau llawfeddygol a treuliodd cleifion gyfartaledd o wyth diwrnod mewn gwely ysbyty oherwydd y camgymeriadau gan ddoctoriaid.
Roedd pum achos o wrthrych estron yn cael ei adael yn ddamweiniol yn y corff yn ystod gofal llawfeddygol a meddygol.
Daeth y wybodaeth o gofnodion saith bwrdd iechyd Cymru sydd ar gael ar wefan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
‘Syfrdanol’
Wrth sôn am y data, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd, Angela Burns AC: “Mae’r data yn arwydd syfrdanol bod achosion o hunan-niweidio drwy gamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn cymryd nifer sylweddol o welyau ysbyty, gan roi pwysau mawr ar ein gwasanaeth iechyd.
“Er bod camgymeriad dynol yn anochel, mae hefyd yn bryderus iawn gweld cymaint o gamgymeriadau llawfeddygol gan arwain at arosiadau cynyddol yn yr ysbyty.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wneud mwy i fynd i’r afael ag arferion yfed a chyffuriau drwy weithredu strategaeth iechyd cyhoeddus cynhwysfawr gyda negeseuon iechyd cyhoeddus cryf.
“Bydd hyn, yn y tymor hir, yn rhyddhau gwelyau ysbytai, lleddfu’r pwysau ar wasanaethau’r gwasanaeth iechyd, yn arbed arian ac, yn hanfodol, yn gwella gofal ar gyfer y cleifion sydd â’r angen mwyaf.”