Mae cwmni olew Royal Dutch Shell wedi cyhoeddi elw o £18.1 biliwn ar gyfer 2011 – cynnydd o 54%  ers y llynedd.
Daw’r cyhoeddiad er gwaetha perfformiad gwaeth na’r disgwyl y cwmni yn chwarter ola’r flwyddyn.

Mae Shell wedi gwneud yn well na’u cystadleuwyr BP dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddweud bod eu cynllun strategaeth wedi adeiladu sylfeini cadarn i ehangu’r cwmni.

Mae’r cwmni, oedd wedi gweld gostyngiad o 3% yn eu cynhyrchiant y llynedd, yn bwriadu buddsoddi mewn sawl prosiect eleni gwerth £19 biliwn.