Fe gyhoeddodd cwmni olew BP gynnydd sylweddol yn eu helw heddiw.

Mae’r cwmni wedi gwneud elw  o £3.2 biliwn yn ystod y tri mis hyd at fis Medi o’i gymharu â £1.1 biliwn yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Dywedodd pennaeth BP Bob Dudley bod y cwmni wedi cyrraedd “trobwynt” ar ôl iddyn nhw wynebu costau mawr i glirio’r difrod a wnaed yn sgil trychineb olew Gwlff Mecsico y llynedd.

Roedd cyfranddaliadau’r cwmni wedi codi 3% yn dilyn y cyhoeddiad.