Mae’r cynllun busnes i gymryd drosodd clwb Newcastle United gan grwp sydd â chefnogaeth Sawdi Arabia, dan fygythiad, wedi i rai honni bod llywodraeth y wlad honno yn “dwyn” hawliau masnachol ac arian teledu.
Mae Uwch Gynghrair Lloegr (y Premier League) yn cyhuddo Sawdi Arabia o fod wrthi’n dawel bach ers blynyddoedd o ddwyn hawliau trwy wrthod cefnogi ymdrech gyfreithiol i ymladd yn y llysoedd y darlledwr answyddogol beoutQ.
Y gred ydi fod y darlledwr hwnnw yn chwarae gemau yn anghyfreithlon trwy’r Arab Satellite Communications Organisation (ArabSat) yn y Dwyrain Canol ac Affrica.
Mae’r Premier League wedi gofyn i naw cwmni cyfreithwyr i fynd i’r afael a’r achos yn erbyn beoutQ, ond mae Sawdi Arabia wedi gwrthod rhoi mynediad a hawl iddyn nhw gael ymchwilio i’r achosion yn y wlad