Mae cwmni ecwiti preifat CVC wedi agor trafodaethau gyda Phencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda’r gobaith o brynu rhan o’r gystadleuaeth.
Ond er y byddai’r cytundeb yn hwb ariannol i undebau’r gwledydd sy’n cystadlu – Cymru, Lloegr, yr Alban, Ffrainc, yr Eidal ac Iwerddon – fe fyddai’n golygu hefyd colli rheolaeth ar elfennau o’r gystadleuaeth.
Dywed Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eu bod yn credu bod buddsoddiad mewn rygbi “yn angenrheidiol” ar gyfer dyfodol y gêm, ac mae’r gred honno’n ganolog wrth ddechrau’r trafodaethau yma.
Fe allai cynnig gan y cwmni preifat CVC gymryd rheolaeth o 15% o ochr fasnachol yr undebau yn ôl papur newydd The Times.