Mae gan dîm criced Morgannwg rywfaint o obaith o hyd o ennill dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth – er mor annhebygol yw hynny o ddigwydd bellach.
Maen nhw’n dibynnu ar ganlyniadau’r gemau eraill i’w helpu nhw er eu bod nhw mewn sefyllfa gref i ennill gêm olaf ond un y tymor.
Erbyn dechrau trydydd diwrnod eu gêm olaf yng Nghaerdydd, roedden nhw wedi cyfyngu Swydd Gaerlŷr i 191 am naw, a’r ymwelwyr yn wynebu’r posibilrwydd o orfod canlyn ymlaen pan fydd y batiad cyntaf yn dod i ben.
Diwedd batiad Morgannwg
Dechreuodd Morgannwg yr ail ddiwrnod ar 300 am bedair yn eu batiad cyntaf, ac fe ychwanegon nhw 135 at eu sgôr, diolch i chwe phartneriaeth o fwy na hanner cant.
Wrth ymosod o’r dechrau’n deg, cafodd Billy Root ei ddal yn y slip i ddod â phartneriaeth o 77 gyda Chris Cooke i ben.
Tarodd Will Davis goes Graham Wagg o flaen y wiced yn fuan wedyn, cyn i Chris Cooke gyrraedd ei hanner canred oddi ar 49 o belenni.
Yn ddiweddarach yn ei fatiad, enillodd Chris Cooke bedwerydd pwynt batio i’w dîm wrth wyro’r bêl i’r ffin i lawr ochr y goes.
Roedd e’n allweddol wrth ennill pumed pwynt batio Morgannwg hefyd, gydag ergyd am chwech ar ochr y goes.
Cafodd Andrew Salter ei ddal gan y wicedwr Harry Swindells am 21, cyn i Chris Cooke gael ei fowlio am 96 wrth geisio gyrru’r bêl i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Chris Wright.
Cafodd Ruaidhri Smith ei fowlio wedyn gan Chris Wright am 12, a daeth y batiad i ben pan gafodd Lukas Carey ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored, wrth i’r bowliwr gipio’i bumed wiced.
Yr ymwelwyr yn chwalu
Ar ôl i Forgannwg ennill pwyntiau batio llawn cyn cael eu bowlio allan am 435, chwalodd batiad cynta’r ymwelwyr er gwaethaf partneriaeth agoriadol o 85 rhwng y capten Paul Horton a Hassan Azad.
O fod yn 85 heb golli wiced, fe lithron nhw i 87 am bump, gyda phum wiced yn cwympo am ddim ond dau rediad o fewn cyfnod o 5.5 o belawdau.
Ar ôl i Michael Hogan fowlio Paul Horton am 49, fe gipiodd Samit Patel, y troellwr llaw chwith sydd ar fenthyg o Swydd Nottingham, dair wiced nesa’r Saeson.
Dechrau’r diwedd
Fe gipiodd e ddwy wiced yn yr un belawd wrth daro coes Colin Ackermann o flaen y wiced cyn bowlio Mark Cosgrove, cyn-fatiwr Morgannwg, heb ei fod e wedi sgorio.
Cipiodd Ruaidhri Smith wiced gyda phelen ola’i belawd gyntaf, wrth i’r bêl gadw’n isel a George Rhodes yn cael ei fowlio heb sgorio, ac fe gipiodd Billy Root ddaliad wrth faesu’n agos i waredu Hassan Azad ym mhelawd ganlynol Samit Patel.
Tarodd y troellwr Andrew Salter goes Harry Dearden o flaen y wiced am naw yn y belawd olaf cyn te, gyda’r ymwelwyr mewn trafferthion yn 111 am chwech.
Aeth pethau o ddrwg i waeth yn y sesiwn olaf, pan gafodd Harry Swindells ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Michael Hogan, ar ôl i’r batiwr geisio brwydro mewn partneriaeth gyda Ben Mike, oedd allan yn y pen draw pan darodd Ruaidhri Smith ei goes o flaen y wiced am 16.
Collodd Gavin Griffiths ei wiced yn yr un modd am dri, wrth i Forgannwg gipio’r nawfed wiced a’u pwynt bowlio olaf.