Mae chwaraewr canol cae Cymru, Aaron Ramsey, wedi arwyddo cytundeb werth £36m gyda clwb pêl-droed Juventus ar ôl treulio deng mlynedd gydag Arsenal.
Wedi wythnosau o sïon ynglŷn â ddyfodol y Cymro 28 oed o Gaerdydd, mae Aaron Ramsey wedi dod i gytundeb pum mlynedd gydag ennillwyr Serie A 2018.
Mae’n golygu mai Aaron Ramsey fydd y trydydd Cymro i wisgo crys streipiog du a gwyn y clwb o Turin yn yr Eidal – ar ôl John Charles ac Ian Rush.
£7 miliwn y flwyddyn
Mi fydd Ramsey yn cael ei dalu £140,000 yr wythnos – £7.2 miliwn y flwyddyn – sy’n golygu mai ef fydd y chwaraewr sy’n ennill yr ail swm uchaf o arian yno, y tu ôl i Cristiano Ronaldo.
Mae Juventus wedi ennill saith Serie A yn olynnol, ac ar ôl arwyddo Cristiano Roandlo am 100 miliwn ewro dros yr haf, maen nhw naw pwynt yn glir o flaen Napoli ar ôl 19 gêm y tymor hwn.
Dros y pedair blynedd diwethaf, maen nhw wedi cyrraedd dwy ffeinal Cynghrair Ewriop, er na ennillwyd yr un.
Pennod newydd
Mae rheolwr Juventus, Max Allegri, ynghŷd â’u cyfarwyddwr pêl-droed, Fabio Paratici, yn edmygwyr mawr o Aaron Ramsey.
Mae’n debygol o ennill ei safle yn y tîm cyntaf gyda’r canolwyr Miralem Pjanic a Blaise Matuidi.
Fe arwyddodd i Arsenal o Gaerdydd yn 2008 am £4.8m ac ers hynny mae o wedi chwarae 252 o gemau i’r clwb yn Llundain, gan sgorio 52 o goliau.
Mae’r Cymro wedi cael gyrfa gymysglyd gydag Arsenal, gyda llawer o uchafbwyntiau yn aml yn dod dan gysgodirniadaeth gan gefnogwyr y clwb am berfformiadau anghyson.