Llun: PA
Fe all pobol yng Nghymru a Lloegr dderbyn miloedd o bunnau o iawndal yn sgil cais newydd am orchymyn llys yn erbyn cwmni ceir Volkswagen (VW).

Mae cwmni cyfreithwyr Harcus Sinclair wedi gwneud cais am orchymyn cyfreithiad grŵp yn erbyn cwmni ceir Volkswagen (VW), er mwyn ceisio cael iawndal i bobol Cymru a Lloegr a gafodd eu heffeithio gan y sgandal allyriadau carbon.

Dyma’r cais cyntaf am orchymyn cyfreithiad grŵp yn erbyn y cwmni o’r Almaen ar ran y 1.2 miliwn o gwsmeriaid yng Nghymru a Lloegr a brynodd gar oedd heb fynd trwy’r profion allyriadau gofynnol. Cyfreithiad grŵp yw trefn y llys o ddelio gyda chwynion tebyg gan nifer fawr o bobol ar unwaith.

Bydd y cais gan Harcus Sinclair yn cael ei gyflwyno i’r Uchel Lys ar 30 Ionawr.

Daeth y sgandal i’r fei yn wreiddiol yn 2015 pan ddatgelwyd bod ceir disel VW, Audi, SEAT a Skoda yn cynhyrchu lefelau o lygredd NOx tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei ganiatáu. Mae llygredd NOx yn medru achosi hyd at 23,000 o farwolaethau cynamserol yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn.

Gall perchnogion ceir a gafodd eu cynhyrchu rhwng 2009 a 2015 gydag injan disel 1.2, 1.6 and 2.0 EA 189 gael miloedd o bunnau o iawndal am bob car, yn ôl cyfreithwyr Harcus Sinclair.