Mae’r rhwystrau sy’n atal pobol rhag cael swyddi wedi gwaethygu ers y cyfnod clo, yn ôl gweithiwr ym maes cyflogadwyedd.

Ymysg y rhwystrau hynny, mae digartrefedd, problemau ariannol, anghenion iechyd, anableddau, cyfrifoldebau gofal plant a phroblemau trafnidiaeth, eglura Rheolwr Rhaglen Cyflogadwyedd Gwaith Gwynedd.

Yn ôl Kelvin Roberts, mae’r rhwystrau wedi dwysáu ers y cyfnodau clo gan fod pobol wedi bod yn mynd allan yn anamlach.

“Mae yna lawer o rwystrau i waith o gwmpas diffyg hyder, iechyd meddwl, gorbryder,” meddai wrth golwg360.

“Pan dw i’n sôn am ddiffyg hyder, diffyg hyder efo cyfathrebu, efo siarad efo pobol newydd ac yn y blaen.”

Pwrpas Gwaith Gwynedd, sy’n gweithio gyda Chyngor Gwynedd, ydy helpu pobol i fynd yn ôl i’r gwaith drwy fentora, hyfforddiant, helpu pobol i ddod o hyd i’w harbenigedd a rhoi cymorth gyda chostau trafnidiaeth ac iechyd meddwl.

‘Sefydlogi’

Mae’r cydbwysedd rhwng faint sy’n chwilio am waith a faint o swyddi sydd ar gael wedi sefydlogi ers y pandemig, fwy neu lai, eglura Kelvin Roberts.

“Roedd yna gynnydd mewn pobol allan o waith ers Covid i ddechrau,” meddai.

“Fe wnaeth hynny sefydlogi ychydig bach, ond aeth hi’r ffordd arall rownd wedyn.

“Roedd cyflogwyr yn ei chael hi’n anodd llenwi swyddi, felly gaethon ni gyfnod reit heriol efo huna.

“Ar un adeg roedden ni’n cael trafferth ffeindio swyddi i bawb wedyn yn sydyn iawn roedd cyflogwyr hefyd yn chwilio am fwy o weithwyr.

“Erbyn hyn mae wedi sefydlogi dipyn bach.”

Cynllun Llwybr

Mae’r cymorth gan Gwaith Gwynedd ar gael i unrhyw un dros 16 oed yn y sir, ac mae’r tîm yn gallu helpu pobol i baratoi at gyfweliadau, gwneud CV a sut i chwilio am swyddi.

Yn yr wythnosau nesaf, bydd sesiynau cyntaf cynllun newydd i greu llwybrau i bobol rhwng 16 a 24 at waith yn dechrau.

“Ar gyfer pobol 16-24 mae gennym gynllun o’r enw ‘Llwybr’ a beth ydy hwnna ydy creu llwybrau mewn i waith yn dibynnu ar ba sector mae pobol ifanc eisiau mynd iddo,” eglura Kelvin Roberts.

“Mi fyddan nhw’n dod i sesiynau am dair wythnos, ac yn y cyfnod yna maen nhw’n cael bob math o sgiliau.

“Fyddan nhw’n cael siarad efo cyflogwyr, a fyddan nhw hefyd yn cael hyfforddiant neu gymhwyster sy’n berthnasol i’r maes gwaith yna hefyd.

“Rydym ni hefyd yn gobeithio ar y diwedd bydd cyflogwyr yn dod mewn i wneud cyfweliadau ffug efo nhw.”

Er bod gan Gwaith Gwynedd ddarpariaeth ar gyfer pobol dros 25 oed hefyd, y prif ffocws yw pobol ifanc.

Ers y pandemig, fe wnaeth Llywodraeth Cymru addewid na fyddai’r un person ifanc allan o waith, hyfforddiant neu addysg.

Ynghyd â hynny, mae Gwaith Gwynedd yn trio targedu pobol sydd gan blant, pobol dros 50 oed, pobol ag anableddau neu anableddau dysgu, a phobol sydd wedi ymddeol yn gynnar ond sy’n dymuno mynd yn ôl i weithio.