Bydd bws wennol pwrpasol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst yn gyfle i “ddod â bwrlwm ’Steddfod, a’r Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru, i’r dre”, yn ôl cynghorydd ym Mhwllheli.

Fe fu ymgyrch gan fusnesau tref Pwllheli i godi’r arian angenrheidiol i gynnal y gwasanaeth bws wennol o Bwllheli i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, ac yn ôl.

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i annog ymwelwyr i ddefnyddio tref Pwllheli i roi hwb i drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Braf iawn oedd cyfarfod â chriw trefnu’r Eisteddfod yng Nghyngor Gwynedd y bore yma i gael clywed llwyddiant trefnu amserlen y bws,” meddai’r Cynghorydd Elin Hywel.

“Mi fydd yr amserlen reolaidd am gyfnod yr Eisteddfod yn cael ei chyhoeddi yn fuan iawn.”

Bydd Cyngor Gwynedd yn ariannu bws hwyr ychwanegol yn y nos, fydd ar gael i gludo teithwyr ar ddiwedd gigs a chyngherddau ar y Maes.

“Gan ein bod mewn lle gwledig, mae peryg bob tro y bydd yr Eisteddfod allan o gyrraedd trigolion ein tref, ond gyda phrisiau rhesymol mae gwell cyfle yma i bawb allu cyrraedd y Maes,” meddai Elin Hywel, gan ddiolch i drigolion sydd wedi gweithio’n galed i godi’r arian, ac am gydweithio tîm y Cyngor Sir am eu gwaith nhw i alluogi hyn i ddigwydd.

“Rwy’n annog pawb fydd yn cyrraedd Pwllheli ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael tro o gwmpas ein tref hyfryd cyn dal y Wennol i’r Maes, mae’n addo i fod yn ŵyl arbennig!”