Bydd gweithwyr Swyddfa’r Post yn mynd ar streic dros benwythnos y Jiwbilî.

Daw hyn yn sgil anghydfod ynghylch tâl, gydag oddeutu 3,500 o aelodau undeb ledled y Deyrnas Unedig yn bwriadu streicio.

Bydd aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) yn Swyddfeydd Post y Goron yn cerdded allan ddydd Sadwrn (Mehefin 4).

Mae’r streiciau’n dilyn gweithredu diwydiannol yn gynharach y mis hwn.

Dywed yr undeb fod rheolwyr Swyddfa’r Post yn mynnu rhewi cyflogau ar gyfer 2021-22, a chynnig cyflog “ychydig yn well” ar gyfer 2022.

‘Amharchus’

“Nid yw ein haelodau eisiau bod yn y sefyllfa hon, ond dydyn nhw ddim am dderbyn cael eu hamharchu chwaith,” meddai Andy Furey, ysgrifennydd cynorthwyol Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu.

“Gweithiodd ein haelodau’n galed i sicrhau elw blynyddol rhagorol i’r cwmni – nid yw fforddiadwyedd yn broblem i reolwyr.

“A dweud y gwir, dydy eu cynnig amharchus ddim ond wedi gwneud ein haelodau yn fwy pen galed.

“Dydyn nhw ddim yn fodlon goddef cwymp yn eu safonau byw.

“Rydym yn diolch i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth, ac rydym yn annog Swyddfa’r Post i ddod at y bwrdd a chael setliad go iawn sy’n trin y gweithwyr allweddol hyn gyda’r parch maen nhw’n ei haeddu.”

‘Ymddiheuro wrth gwsmeriaid’

“Rydym am sicrhau ein cwsmeriaid na fydd y streic yn effeithio ar y mwyafrif helaeth o’n canghennau ddydd Sadwrn,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Post.

“Mae yna 114 o ganghennau, fel arfer yng nghanol dinasoedd, sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol gan Swyddfa’r Post.

“Fel arfer, dim ond rhwng 9yb a 12.30yh y byddai dros ddwy ran o dair ar agor ar ddydd Sadwrn.

“Rydym yn ymddiheuro wrth gwsmeriaid am unrhyw anghyfleustra.”