Dydi’r mwyafrif sylweddol o fusnesau bach sy’n mewnforio cynnyrch, ac a fydd yn cael eu heffeithio gan wiriadau newydd ar gynnyrch o’r Undeb Ewropeaidd, ddim wedi paratoi ar eu cyfer eto.

Bydd y gwiriadau llawn ar gyfer mewnforio cynnyrch o’r Undeb Ewropeaidd yn dod i rym mewn mis, ac mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi tynnu sylw at ddiffyg capasiti cwmnïau bach i ddelio â’r gwaith papur newydd.

Ar y funud, does dim rhaid gwneud datganiadau tollau ar gyfer nwyddau sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd nes maen nhw wedi cyrraedd.

Ond o ddiwrnod cyntaf Ionawr 2022, bydd rhaid cyflwyno’r gwaith papur hwnnw o flaen llaw, a bydd rhaid rhoi gwybod am fewnforion bwyd, diod, a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid o flaen llaw.

Mae ymchwil newydd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yn dangos mai dim ond un ymhob pedwar busnes bach a fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau, ac yn ymwybodol ohonyn nhw, sy’n barod am y gwiriadau newydd.

Dywedodd 16% eu bod nhw yn methu paratoi ar gyfer y gwiriadau yn yr hinsawdd bresennol, a dywedodd 33% nad oedden nhw’n ymwybodol o’r gwiriadau nes i’r Ffederasiwn sôn amdanyn nhw wrth gynnal yr arolwg.

“Amser gweithredu”

Wrth drafod canfyddiadau’r arolwg, dywedodd cadeirydd y Ffederasiwn Busnesau Bach Cenedlaethol, Mike Cherry: “O ystyried y cythrwfl dros y deunaw mis diwethaf, pryderon newydd am ledaeniad Covid, ac mai hwn yw adeg prysuraf y flwyddyn i lawer, mae hi’n ddealladwy mai ychydig o gwmnïau sy’n hollol barod i’r rheolau mewnforio gael eu cyflwyno ym mis Ionawr.

“Hyn rydyn ni’n ddweud wrth gwmnïau: mae hi’n amser gweithredu. Siaradwch gyda chyflenwyr er mwyn sicrhau bod gennych chi bopeth rydych chi eu hangen er mwyn gwneud datganiadau, ystyriwch ddarparwyr gwahanol os mai hynny sy’n edrych fel y ffordd effeithlon ymlaen, a meddyliwch am lwybrau trafnidiaeth gwahanol.

“Bydd pobol sydd ddigon ffodus i gael yr arian i brynu lot o gynnyrch ar yr un pryd yn cael eu temtio i wneud hynny, ond mae yna brinder lle mewn warysau yn barod – os yw pawb yn cymryd mwy o le, bydd llai o le.

“Rydyn ni’n erfyn ar y llywodraeth i wneud popeth yn eu gallu i godi ymwybyddiaeth, gydag ein cefnogaeth, trwy bob ffordd sydd ar gael iddyn nhw mewn hinsawdd lle nad oes gan nifer o gwmnïau bach yr arian na’r ystod i ddelio â’r tâp coch newydd hwn.”

Mae’r Ffederasiwn yn apelio ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddysgu gwersi oddi wrth eu Cronfa Cefnogi Brexit Busnesau Bach a Chanolig, gan ddweud na chafodd digon o gymorth ei ddarparu drwyddi.

“Dylai gwneuthurwyr polisi ddysgu gwersi o’r broses honno a lansio cronfa newydd, gyda’r un nod o helpu busnesau rhyngwladol sy’n bodoli’n barod gyda’r gwaith papur ychwanegol, a busnesau newydd, ond gyda ffocws rhyngwladol gwirioneddol.”

Mae Gwasanaeth Cymorth Allforio wedi cael ei lansio’n ddiweddar, ac mae’r Ffederasiwn yn dweud bod angen Gwasanaeth Cymorth Mewnforio nawr “er mwyn ymbweru busnesau gyda’r canllawiau a’r wybodaeth y maen nhw eu hangen er mwyn ymdopi â masnach ryngwladol yn llwyddiannus wrth iddo esblygu”.