Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn i bobol dros 50 oed yng Nghymru am eu barn am y cyfleoedd menter a busnes sydd ar gael iddyn nhw.

Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnwys aelodau o bob plaid a’r bwriad ydi dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Ar hyn o bryd, maen nhw’n cynnal ymchwiliad i gyfleoedd cyflogaeth i bobl hŷn – sef pobol dros 50 oed.

“Hoffem wybod pa broblemau yr ydych wedi’u hwynebu os ydych yn ddi-waith ac yn ceisio dod o hyd i gyflogaeth,” meddai William Graham, Cadeirydd y pwyllgor. “A beth hoffech ei wneud am y peth?

“Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed a yw hyder yn broblem, yn enwedig ar ôl colli swydd. Hoffem glywed eich barn ar p’un a ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau a’r cymwysterau angenrheidiol, naill ai i ymuno â’r farchnad lafur neu i ddiweddaru eich sgiliau yn eich cyflogaeth bresennol.

“A beth yw’r farn ynghylch a oes unrhyw anfanteision yn deillio o gael rhagor o bobl hŷn mewn swyddi?” meddai William Graham wedyn. “Er enghraifft, a yw’n effeithio ar nifer y swyddi sydd ar gael i bobl ifanc, neu ar y cyfleoedd am ddyrchafiad i weithwyr iau?”

Dweud eich dweud

Bydd y wybodaeth sy’n dod gan aelodau’r cyhoedd yn cael ei defnyddio i gyhoeddi adroddiad ac argymhellion i Lywodraeth Cymru i gymryd camau, a bydd gan Weinidogion Cymru chwe wythnos i ymateb i’r hadroddiad.

Mae modd anfon eich sylwadau ar e-bost at: SeneddBusnes@cynulliad.cymru neu drwy ysgrifennu at y Clerc, y Pwyllgor Menter a Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd CF99 1NA.