Sarah Hughes o gwmni Eat My Flowers
Mae cwmni o Sir Ddinbych sy’n creu addurniadau o flodau wedi arddangos eu cynnyrch yng nghylchgrawn Vogue, wedi gwerthu i siop Harrods, a rŵan wedi ymestyn eu rhestr archebion i siopau Fortnum and Mason yn Llundain.
Creu addurniadau cain o flodau melys a lolipops blodau mae cwmni Eat My Flowers o Gorwen, sy’n cael ei redeg gan Sarah Hughes.
Gan ddefnyddio technegau crisialu, mae hi’n trawsnewid planhigion sy’n tyfu yn ei gardd i fod yn rhoddion sy’n gallu cael eu bwyta ac a ellir eu defnyddio i addurno cacenni.
Ysbrydoliaeth
Yn 2010, fe wnaeth Sarah Hughes roi’r gorau i’w swydd yn cynghori pobl ddi-waith i gychwyn busnesau eu hunain, i sefydlu Eat My Flowers gyda chefnogaeth cynllun busnes Cywain.
“Mae crisialu’r blodau yn rhywbeth dwi wedi ei wneud erioed oherwydd i fy Nain fy nysgu pan oeddwn i’n ifanc,” meddai.
“Dwi ddim yn hoff iawn o fwyta eisin ar gacen, felly ro’n i’n defnyddio’r dechneg yma i addurno fy nghacennau cartref fy hun.”
Ac mae Sarah Hughes yn gobeithio ehangu’r gwaith ymhellach dros y flwyddyn nesaf:
“Rydyn ni ar fin cyflenwi blodau ar gyfer cinio gŵyl Ddewi y Swyddfa Gymreig ym Mrwsel, ac mae hi’n anrhydedd fawr i ni allu cynrychioli Cymru ar y llwyfan Ewropeaidd.
“Rydyn ni hefyd newydd gyflogi un aelod o staff yn rhan amser, ac rydyn ni’n edrych ar ddatblygu uned gynhyrchu bwrpasol ar y fferm.”