Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Athro Euros Wyn Jones o Langefni, y gweinidog a’r darlithydd “triw iawn”, a fu farw’n sydyn ddydd Iau yr wythnos ddiwethaf (Tachwedd 29), ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 68 oed.

Roedd yn hanu o ardal Carrog ger Corwen, ac wedi treulio cyfnodau’n weinidog gyda’r Annibynwyr yn ardaloedd Henllan Amgoed ger Hendy-Gwyn ar Daf, ym Mhorthaethwy ac yn Llangefni.

Cafodd ei benodi wedyn yn Athro Athrawiaeth Gristnogol yn y Coleg Gwyn ym Mangor ac Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth-Llanbedr Pont Steffan rhwng 1992 a 2010.

Fe gyhoeddodd nifer o lyfrau ac ysgrifau’n ymwneud â Christnogaeth, ac yn ddiweddar iawn fe olygodd y gyfrol Blas ar Gristnogaeth Cymru, sy’n gasgliad o ysgrifau y diweddar R Tudur Jones.

“Triw iawn”

“Roedd o’n selog iawn yn ei waith, ac yn arbennig o gefnogol i godi cenhedlaeth newydd,” meddai’r Parchedig Hywel Meredydd, gweinidog yng Nghapel Cildwrn, Llangefni, wrth golwg360.

“Mae wedi bod ynglŷn â nifer o weinidogion a hyfforddi gweinidogion, ac mae wedi bod yn driw iawn iddyn nhw.

“Mewn dyddiau anodd, dydy o ddim yn rhwydd i fynd yn weinidog, ond mae o wedi bod yn driw iawn yn teithio ar draws Cymru i gyfarfod ag unigolion, eu cynorthwyo a’u hannog nhw.

“Mae o wedi agor y Gair iddyn nhw, ac wedi bod yn driw iawn.”

Cofio’r Athro

Mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, mae un cyn-fyfyriwr yn y Coleg Gwyn, Rhys Llwyd, yn dweud bod marwolaeth yr Athro Euros Wyn Jones wedi bod yn “sioc”.

Mae’r gweinidog yng Nghaersalem yng Nghaernarfon yn cofio sut roedd ei ddarlithydd yn “byrlymu o ddyfnder a chyfoeth y traddodiad Calfinaidd Cymraeg.”

Roedd Euros Wyn Jones yn ŵr gweddw, ac mae’n gadael pump o blant – Gwenno, Huw, Lowri, Mari a Dewi – yn ogystal â brawd, y Parchedig Gwyndaf Jones.

Fe fydd ei angladd yng nghapel Moreia, Llangefni, ddydd Iau, Rhagfyr 13, am 3yp.