Mae crewyr cyfres blant Sesame Street yn dweud mai “ffrindiau gorau” ydi’r pypedau Bert ac Ernie, ac nad oedd hi’n fwriad erioed iddyn nhw fod yn gymeriadau hoyw.
Mae Sesame Workshop, y sefydliad y tu ôl i’r gyfres Americanaidd, wedi cyhoeddi’r datganiad, wedi i un o awduron y sioe awgrymu mai pâr hoyw oedd y ddau.
Yn ôl Mark Saltzman mewn cyfweliad yn y cylchgrawn Queerty, roedd profiadau’r ddau byped yn adleisio rhai pethau yn ei berthynas gyda’i bartner, Arnold Glassman.
Ond mewn ymateb ar wefan Twitter, mae Sesame Workshop yn dweud fod y rhaglen wedi ceisio bod yn “gynhwysol ac yn dderbyniol” ers y dechrau. “Mae’n fan lle mae pobol o bob diwylliant a chefndir.”
Mae Bert ac Ernie wedi bod yn rhan o’r gyfres i blant bach ers y dechrau’n deg, yn 1969.