Mae ystadegau yn dangos nad oed gan 40% o ysgolion unrhyw ferched yn astudio Ffiseg Lefel A.
Ledled Cymru, dim ond 18% o’r disgyblion Lefel A Ffiseg sy’n ferched ac yn ôl llefarydd addysg Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd, mae angen gweithredu ar frys i gynyddu nifer y merched sy’n dewis parhau â phynciau gwyddoniaeth a mathemateg.
“Mae problem sylfaenol fan hyn pan fyddwch chi’n ystyried bod niferoedd y bechgyn a merched yn astudio Ffiseg bron yn hafal ar lefel TGAU – 3,001 o fechgyn a 2,883 o ferched yn 2017,” meddai.
“Fodd bynnag mae’r ffigurau sy’n astudio Ffiseg at Lefel AS yn disgyn i 22% ac ar Lefel A, mae e ‘mond yn 18%.
“Mae hyn yn ostyngiad difrifol a phryderus iawn sydd rhaid i’r Ysgrifennydd Addysg fynd i’r afael ag ef.
“Os ydyn ni o ddifrif am gynyddu nifer sy’n astudio pynciau STEM [gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg], rhaid i ni sicrhau ein bod yn estyn allan at fechgyn a merched neu gallwn golli cenhedlaeth gyfan o ffisegwyr a gwyddonwyr benywaidd.”
‘Angen hyfforddiant i athrawon’
Wrth ymateb i’r ystadegau, mae Chwarae Teg wedi galw am roi mwy o hyfforddiant i athrawon a sicrhau bod gan ferched modelau rôl.
“Mae o bryder mawr fod merched sy’n gwneud Ffiseg Lefel A mor isel. Mae gyrfaoedd STEM yn debygol o fod â chyflog gwell felly mae’n bwysig bod gan fenywod yr un cyfleoedd â dynion i fynd at y farchnad,” meddai Helen Antoniazzi o’r elusen.
“Mae’n dechrau yn ein hysgolion, os ydym yn methu ag ymgysylltu mwy gyda menywod ar y cyfnod hwn, dydyn ni byth yn mynd i weld gweithlu cytbwys mewn gyrfaoedd STEM ac rydym ni’n annhebygol o gau’r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod.”
“Dim ond 11% o fenywod sy’n gweithio yn y diwydiant peirianneg ar hyn o bryd ac mae hynny’n lleihau i 6.6% mewn peirianneg awyrofod, 8% mewn ynni a 10% mewn peirianneg rheilffyrdd, peirianneg sifil a pheirianneg strwythurol.”
Dywedodd fod rhoi hyfforddiant parhaus ar ragfarn anymwybodol ac ymwybyddiaeth rywedd i athrawon a thaclo stereoteipiau yn “hanfodol”, yn ogystal â sicrhau bod gan ferched modelau rôl benywaidd.
“Angen gwneud mwy”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ledled y DU, mae nifer y merched sy’n astudio Ffiseg ar lefel Safon Uwch yn dal yn rhy isel. Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy – ni ddylai unrhyw bwnc fod y tu hwnt i gyrraedd merched na bechgyn – a dyna pam y bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn cyhoeddi cynllun mentora newydd ar gyfer Ffiseg a fydd yn targedu merched yn arbennig.
“Dyma yw ffocws gwaith y Rhwydweithiau Rhagoriaeth Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg hefyd, ac ar gyfer Mathemateg – sy’n cynnwys prifysgolion, ysgolion a phartneriaid rhanbarthol. Mae i raglen rhwydwaith Stimulating Physics, Techniquest a Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach ffocws tebyg ar annog merched i astudio pynciau STEM.
“Mae hyn yn ychwanegol at Grŵp Merched a STEM sy’n gweithio ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid i wella’r cydbwysedd rhwng y rhywiau ym mhynciau STEM.”