Mae “diffyg buddsoddiad” Cyngor Caerdydd mewn addysg Gymraeg yn “annerbyniol”, yn ôl Aelod Seneddol gogledd y brifddinas, Anna McMorrin.
Mae’r gwleidydd Llafur wedi dweud bod rhaid i’r Cyngor, sy’n cael ei arwain gan yr un blaid, ymateb i’r galw a “sicrhau cyllid angenrheidiol” i wella darpariaeth ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.
Daw ei phryderon yn dilyn methiant dwy ysgol gynradd yn ei hetholaeth – Ysgol y Wern ac Ysgol Mynydd Bychan – i gynnig lle i blant ar gyfer y flwyddyn i ddod.
“Mae diffyg buddsoddiad yn annerbyniol. Fel cenedl mae’n rhaid inni ddarparu’r cyfle i bob rhiant anfon eu plentyn i ddysgu drwy gyfrwng iaith ein gwlad,” meddai Anna McMorrin.
“Yn dilyn llwyddiant ysgubol yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yr wythnos hon, a gan fy mod yn ddysgwr fy hun, fe ddylem ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau y caiff unrhyw blentyn sy’n dymuno mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg y cyfle i wneud hynny.
“Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu a dylem ni fod yn gwneud popeth yn ein gallu ni i gyflawni targed Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
“Rhannu brodyr a chwiorydd”
Dywedodd yr AS fod brodyr a chwiorydd yn eu hetholaeth yn gorfod mynd i ysgolion gwahanol o achos diffyg darpariaeth Gymraeg.
“Bu’n gyfnod arbennig o boenus i rieni a phlant mewn dalgylchoedd lle bu mwy o geisiadau na nifer y lleoedd oedd ar gael a golyga hyn fod brodyr a chwiorydd yn awr yn mynd i ysgolion gwahanol, ac mae athrawon yn teimlo’n rhwystredig wrth orfod gwrthod dysgwyr bach brwdfrydig.
“Rwy’n ymwybodol iawn o’r pwysau cyllid y mae ysgolion ledled Caerdydd yn eu hwynebu ac effaith hyn ar allu ysgolion unigol i gynnig lle i blant.
“Ond os ydym ni am gyflawni targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yna mae’n rhaid i Gyngor Caerdydd sicrhau’r cyllid angenrheidiol ar gyfer adnoddau digonol i wella’r ddarpariaeth addysgu a dysgu Cymraeg.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Caerdydd.
Ddechrau’r mis, fe ddywedodd arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, bod angen cynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg yn y ddinas o 17% i 30%.