Mae mwy o bobol o Ddwyrain Ewrop yn gadael y Deyrnas Unedig nag sy’n symud yno, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers i’r bloc o wledydd sy’n cynnwys y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia, ymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn 2004.
Yr ‘EU8’ yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio am y gwledydd yma, ac ers pleidlais Brexit yn 2016 mae’r niferoedd sy’n mudo i wledydd Prydain wedi disgyn.
O ystyried mewnfudiad dinasyddion ledled yr Undeb Ewropeaidd, mae mwy yn symud i’r Deyrnas Unedig nag sydd yn gadael – 87,000 yw’r ffigur ‘mudo net’.
Ond, o gymharu’r ffigur yma ag ystadegau rhai blynyddoedd yn ôl, mae’n debyg mai dyma’r ffigur ‘mudo net’ isaf ers dros bum mlynedd.
“Llai deniadol”
“Yn amlwg, mae’r Deyrnas Unedig wedi troi’n le llai deniadol i fewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd ers y refferendwm,” meddai Madeleine Sumption, Cyfarwyddwr yr Arsyllfa tros Fudo, ym Mhrifysgol Rhydychen.
“Mae cwymp yng ngwerth y bunt yn golygu bod gweithwyr a ddaeth yma i gael cyflogau uwch, bellach yn derbyn llai nag yr oedden nhw yn y gorffennol.
“Ac mae cyflwr economaidd sawl un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi gwella cryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n bosib bod ansicrwydd ynglŷn â goblygiadau Brexit wedi chwarae rôl.”
Daw’r ffigurau gan swyddfa ystadegau’r ONS.