Mae Prif Weinidog Canada wedi ysgrifennu’n bersonol at ddisgyblion ym Mlaenau Ffestiniog am eu hymgyrch i ennill statws safle treftadaeth y byd UNESCO.
Mae Justin Trudeau yn diolch i fyfyrwyr Ysgol y Moelwyn am anfon darn o lechen ato o’r dref, ax mae’n eu llongyfarch ar y prosiect sydd wedi ennill cefnogaeth gan sawl arweinydd byd arall.
“Wow! Diolch am eich llythyrau meddylgar a’r rhodd o ddarn o lechen o dref Blaenau Ffestiniog,” meddai yn y llythyr.
“Fel Prif Weinidog Canada, rwy’n dwlu ar gael llythyrau gan bobol ifanc ledled y byd. Mae’n fy ngwneud i’n hapus pan fo gan fyfyrwyr ddiddordeb yn eu treftadaeth.
“Mae’r prosiect hwn yn dasg hynod, mae’n dangos y balchder cymeradwy sydd gennych yn eich hanes.
“Gobeithio y byddwch yn parhau i weithio’n galed yn yr ysgol ac ysbrydoli eraill. Diolch eto am ysgrifennu ataf, ac am yr anrheg. Dymunaf y gorau i chi gyd!”
Anfon llechi ar draws y byd
Mae’r ymgyrch wedi cyrraedd pellafion, gyda Thywysog Monaco, Arlywydd Dominica a Phrif Weinidog Samoa ymhlith y rhai sydd wedi dangos cefnogaeth.
Carwyn Jones, Leanne Wood a Jeremy Corbyn yw’r arweinwyr agosaf at adref sydd wedi dangos eu cefnogaeth drwy dynnu llun ohonyn nhw’u hunain gyda darn o lechen o Flaenau Ffestiniog.
Mae llythyr gyda darn o lechen a logo’r ymgyrch Llechi Bro arni wedi mynd at wleidyddion ym mhob gwlad yn y byd.
Y nod yw ennill statws safle treftadaeth y byd UNESCO ar gyfer Blaenau Ffestiniog fel rhan o ardal chwareli llechi gogledd Cymru.