Fe fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb daro bargen gyda’n cymdogion ar y cyfandir yn “drychinebus”, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Mae Carwyn Jones hefyd yn rhybuddio y gallai Brexit heb ddêl greu “trafferthion enfawr” gan achosi “niwed economaidd a chymdeithasol difrifol” ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Nid yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn ac nid yw ymgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig i daflu llwch i’n llygaid yn llwyddo,” meddai Prif Weinidog Cymru.

“Mae’n bryd i’r Prif Weinidog [Theresa May] roi ei chardiau ar y ford a mynd ati i weithio’n adeiladol gyda 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau cytundeb Brexit sy’n diogelu ein dinasyddion, ein gwasanaethau a’n heconomi.”

Cyngor

Daw rhybudd Carwyn Jones wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cyngor ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.

Mae bellach wedi dod i’r amlwg y gallai taliadau cerdyn rhwng gwledydd Prydain ac Ewrop fod yn fwy costus, os na fyddai bargen yn cael ei daro.

Bydd siopwyr ar-lein hefyd yn cael eu heffeithio, ac mi fydd rhagor o dap coch yn cymhlethu’r broses o fewnforio meddyginiaethau.