Mae un o bob tri meddyg teulu a staff meddygfeydd yng Nghymru, yn profi problemau â’u hiechyd meddyliol, yn ôl arolwg.
O holi 100 o staff meddygol ledled Cymru, mae’r elusen Mind Cymru wedi darganfod bod yna “sawl achos” o anhwylder meddyliol o fewn meddygfeydd y wlad.
Hefyd mae’r elusen wedi darganfod bod yr aelodau staff yn gyndyn i droi at eu cyd-weithwyr am gymorth, ac yn ffafrio trafod eu trafferthion â’u teuluoedd.
Yn sgil cyhoeddi’r ystadegau, mae Mind Cymru yn galw ar fyrddau iechyd a meddygfeydd yng Nghymru i sicrhau eu bod yn darparu cymorth i aelodau staff sy’n dioddef.
“Anodd”
“Dydi gweithio ym maes iechyd ddim yn golygu bod siarad am eich iechyd meddyliol yn y gweithle, yn beth haws,” meddai Simon Jones, Pennaeth Polisi Mind Cymru.
“Mewn gwirionedd, mae pryderon am allu dyn i ofalu am gleifion, yn ei gwneud yn anoddach. Rhaid sicrhau bod staff gofal iechyd yn medru siarad am eu hiechyd meddyliol.
“Fel unrhyw un arall, mae angen cefnogaeth arnyn nhw, a dylai bod hynny’n cael ei ddarparu iddyn nhw.”
Canfyddiadau
Mae… 35% o feddygon teulu a staff meddygfeydd yn profi problem iechyd meddyliol
Mae… 84% o staff yn troi at eu teuluoedd am gymorth
Mae… 86% o staff yn troi at eu doctor am gymorth
Mae… 48% o staff yn troi at eu cydweithwyr am gymorth
Mae… 21% o staff yn troi at reolwr eu meddygfa am gymorth