Criw Bangor yn dathlu ennill yr Eisteddfod Ryng-gol
Myfyrwyr Prifysgol Bangor hawliodd y nifer mwyaf o bwyntiau yn yr Eisteddfod Ryng-golegol y penwythnos hwn a hynny ar garreg eu drws ym Mangor.

Aberystwyth ddaeth yn ail, ond stori fawr y penwythnos oedd camp aelodau Cymdeithas Gymraeg Lerpwl wrth iddyn nhw gipio’r trydydd safle ar derfyn dydd wrth gystadlu yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf.

Aeth y gadair i fyfyriwr Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg Aberystwyth, sef Carwyn Eckley sy’n wreiddiol o Ddyffryn Nantlle.

Esboniodd iddo ysgrifennu cerdd ar y testun ‘Yr Arwr’ fel teyrnged i Donald Henderson, y gwyddonydd fu’n gyfrifol am waredu’r frech wen.

Canlyniadau eraill…

Luned Bedwyr o Brifysgol Caerdydd gipiodd y Fedal Gelf ac Alistair Mahoney o Brifysgol Bangor gipiodd Tlws y Cerddor.

Aeth y Fedal Ddrama i Nia Haf; y Goron i Non Mererid Jones a Medal y Dysgwyr i Megan Elias – y tair yn astudio Cymraeg ym Mangor.

Daeth yr eisteddfod i fwcl gyda gig yn Pontio gyda’r Eira, Chwalfa, Band Pres Llareggub a Candelas.