Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi bod yr Athro y Fonesig Julie Lydon wedi’i phenodi’n Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a’r Athro David Sweeney wedi’i beondi’n Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi ac yn Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn.

Y Comisiwn fydd y stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil gyfan, gan ddwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch a bellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau, ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn un lle.

Cyfle ‘cyffrous a heriol’

“Rwy’n falch iawn i gadarnhau penodiadau’r Athro’r Fonesig Julie Lydon a’r Athro David Sweeney,” meddai Jeremy Miles.

“Edrychaf ymlaen at weithio gyda Julie a David yn ystod eu cyfnod i wireddu ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru”.

“Mae’n bleser cael fy mhenodi’n Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil,” meddai’r Athro y Fonesig Julie Lydon.

“Mae’r cyfle i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, partneriaid a bwrdd y comisiwn i wireddu gweledigaeth ac uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil, yn un cyffrous a heriol.”

“Rwy’n falch o gael fy mhenodi’n yn Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r holl randdeiliaid i feithrin cyfraniad byd-eang Cymru yn y maes ymchwil ac arloesi, i gynyddu budd Ymchwil ac Arloesi i bobol Cymru, ehangu’r maes cyfrwng Cymraeg a chael system addysg sy’n darparu pobol fedrus i lenwi swyddi,” meddai’r Athro David Sweeney.