Mae disgwyl i gynghorwyr roi caniatâd terfynol ar gyfer estyniad gwerth £12 miliwn i Ysgol Gyfun Rhydywaun yng Nghwm Cynon.

Byddai’r cynlluniau yn golygu fod lle i 187 o ddisgyblion cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn yr ysgol ym Mhenywaun, a bydd y cynlluniau’n mynd gerbron y cyngor ddydd Mercher nesaf (Mai 26).

Mae adroddiad yn argymell buddsoddiad ariannol o £12.3 miliwn ar gyfer cynyddu’r capasiti, a gwella’r cyfleusterau addysgu, drwy adeiladu bloc dysgu newydd ar safle ysgol.

Byddai’r rhan newydd yn cynnwys wyth ystafell ddosbarth, ystafelloedd cymunedol, cyfleusterau drama a cherddoriaeth newydd, neuadd chwaraeon, ystafelloedd newid, ac ystafell ffitrwydd.

Yn ogystal, byddai labordai gwyddoniaeth ac ardaloedd technoleg, cyfleusterau bwyta newydd, a gwelliannau cyffredinol yn cael eu sichrau i’r ysgol.

Er mwyn cefnogi cwricwlwm newydd Cymru, byddai uned Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol, ac Ymddygiadol, ac ardal lesiant yn cael eu sefydlu.

Daw hyn yn dilyn buddsoddiad o £600,000 ar gyfer creu cae 3G i’r ysgol yn 2019, ac wrth i Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr gael buddsoddiad o £4.5m.

Yn yr ardal hefyd, mae £10.2 miliwn wedi cael ei fuddsoddi ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Gynradd Hirwaun.

Bydd 65% o’r prosiect yn cael ei ariannu drwy grant Band B Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, a’r gweddill drwy gyfraniad gan y llywodraeth leol drwy fenthyca darbodus.

Bydd y gost gyfalaf i Gyngor Rhondda Cynon Taf yn £4.24 miliwn, a’r gost refeniw blynyddol er mwyn ad-dalu’r benthyciad hwn fydd £159,000 dros 40 mlynedd – bydd e’n cael ei dalu drwy wneud arbedion sydd wedi’u sicrhau drwy ad-drefnu ysgolion y sir.

Yn ystod cyfarfod o gabinet y Cyngor ym mis Medi 2018, rhoddwyd caniatâd ar gyfer datblygu, a gwneud cais i Lywodraeth Cymru am arian Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, er mwyn cynyddu capasiti’r ysgol i gyfarfod y galw am lefydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Fis Chwefror, cafodd y Cabinet wybod fod y cynnig wedi bod drwy’r holl gamau perthnasol gan Lywodraeth Cymru, ac erbyn hyn maen nhw wedi derbyn yr arian.

Mae’r Cabinet wedi cytuno i gyflwyno’r adroddiad i’r cyngor er mwyn cymeradwyo’r benthyciad ar gyfer cyfraniad y cyngor, a chafodd y cais cynllunio ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio ym mis Chwefror.