Cyw S4C
Mae Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor yn credu y bydd app addysgiadol newydd gan S4C yn fodd o wella Cymraeg plant.

Yn ôl Dr Llion Jones, mi fydd app ‘Cyw a’r Wyddor’ yn “cyfrannu at feithrin datblygiad ieithyddol ac addysgol plant Cymru.”

“Mae pwyslais S4C ar gynhyrchu adnoddau addysgol rhyngweithiol yn y Gymraeg i’w groesawu ar sawl cyfrif,” meddai.

“O ran statws yr iaith a’r canfyddiad ohoni, mae’n hanfodol fod y Gymraeg yn hawlio’i lle ar y llwyfannau digidol diweddaraf gyda deunydd mor ddeniadol â hyn.

“Yn fwy ymarferol, mae’r appiau newydd yn dangos yn glir sut y gellir harneisio grym technolegau newydd i gyfrannau at y gwaith o feithrin datblygiad ieithyddol ac addysgol plant Cymru.”

Cynnwys

Mae ‘Cyw a’r Wyddor’ yn un o ddau app newydd sbon sydd yn cael eu rhyddhau gan S4C ar gyfer gwylwyr iau y Sianel.

Mae ‘Cyw a’r Wyddor’ ar gyfer plant hyd at 6 mlwydd oed ac wedi ei ddatblygu i gyflwyno’r wyddor mewn ffordd liwgar a hwyliog. Gyda chymorth cymeriadau Cyw – Cyw, Plwmp, Jangl, Llew, Deryn a Bolgi – bydd plant yn dysgu siâp a sŵn llythrennau’r wyddor Gymraeg wrth ymuno yng nghân yr wyddor a ffurfio’r llythrennau gyda’u bys ar y sgrin.

Mae’r ail app, ‘Gwylltio’ i blant a phobl ifanc 7-13 oed ac yn llawn ffeithiau a gwybodaeth am fyd natur. Bydd yn cyd-fynd â chyfres newydd fydd yn dechrau ar S4C ym mis Mehefin.

Nod yr app yw arwain plant allan o’u cynefin i chwilio am blanhigion a bywyd gwyllt gyda chymorth ffeithiau, lluniau a chlipiau fideo.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, Sioned Wyn Roberts: “Mae ymestyn gwasanaethau Cyw a Stwnsh i blatfformau digidol newydd yn waith pwysig sy’n gosod S4C yng nghanol bywydau plant a phobl ifanc Cymru.

“Nod y ddau app newydd yw cyflwyno addysg mewn ffordd hwyliog a thrwy ddulliau sy’n berthnasol iddyn nhw. Mae’r genhedlaeth yma wedi eu magu gyda’r dechnoleg ddiweddaraf ac mae’n hanfodol bod yr iaith Gymraeg ac S4C yn rhan o’r datblygiadau newydd, heddiw ac wrth edrych i’r dyfodol.”

Mae’r ddau app ar gael i’w lawr lwytho yn rhad ac am ddim o App Store cwmni Apple.