Archdderwydd Gorsedd y Gîcs, Rhodri ap Dyfrig, sy’n ein cyflwyno i’r digwyddiad cyntaf o’i fath yn y Gymraeg…

Eleni cynhaliwyd digwyddiad ymylol yn yr Eisteddfod nas gwelwyd ei debyg o’r blaen. Nos Iau daeth grŵp o bobol allan o’u stafelloedd a swyddfeydd tywyll, oddi wrth eu sgriniau LCD, i olau llachar haul y Bala. Yno roedd rhaglenwyr, blogwyr, dylunwyr gwefannau, nyrdiau teclynnau, cyfieithwyr meddalwedd a ffyddloniaid rhwydweithiau cymdeithasol. Roedden nhw i gyd yno ar gyfer blwyddyn gyntaf Gorsedd y Gîcs, sef cyfarfod anffurfiol i rannu gwybodaeth a straeon ar ddefnydd technoleg a’r we yn y Gymraeg.

Trefnwyd y digwyddiad gan gyfranwyr blog technoleg a gwe Metastwnsh.com ar y cyd gyda Hedyn.net, gwefan sy’n rhannu gwybodaeth ar greu gwefannau Cymraeg a phrosiectau lleoleiddio meddalwedd.

Y bwriad yn y bôn oedd cael esgus i gwrdd â’n gilydd y tu allan i’r rhithfyd. Mae sawl un o gyfranwyr Metastwnsh wedi bod yn cydweithio ar y blog ers dros chwe mis bellach a hynny heb iddyn nhw gyfarfod ei gilydd unwaith. Roedd hwn yn gyfle i roi wyneb i’r rhithffurf a gweld pwy yw’r person y tu ôl i’r persona.

Ond bron i ni gael trychineb cyn dechrau – doedd y WiFi ddim yn gweithio yn y lleoliad ddewison ni! Be fydden ni’n wneud heb sgrin fach i guddio tu ôl iddo? Ond na phoener, aethon ni dros y ffordd i dafarn arall oedd â digon o sudd gwe i gadw pawb yn hapus. Cyhoeddwyd y newid lleoliad ar Twitter a llwyddodd pawb oedd eisiau dod i gyrraedd ar ôl gweld y neges.

Ar ôl peint i lacio’r genau roedd y trafod yn frwd, pawb yn y stafell a’u ffonau i-dot a’u gliniaduron yn dangos pa feddalwedd neu wefannau roedden nhw’n gweithio neu wirioni arno. Yma mewn un stafell roedd injan y we annibynnol Gymraeg ar waith ac roedden ni’n hynod falch o weld brwdfrydedd pawb. Wrth edrych rownd roeddwn yn sylwi pa mor bwysig oedd digwyddiadau bach fel hyn i ail-danio’r egni hyn ac i sbarduno syniadau fel gwreichion bychain.

Roedd eraill nad oedd yn gallu bod yno’n dilyn y drafodaeth yn fyw ar Twitter neu ar wefan Stwnsh ’Steddfod lle’r oedd ein negeseuon yn ymddangos, ac roedd ambell lun a fideo o’r digwyddiad yn cael eu postio i’r we yn y fan a’r lle. Felly cafwyd noson ryngweithiol, ddigidol, gymdeithasol wrth ein boddau – a hynny yng nghanol cefn gwlad Cymru. Gan brofi, os oedd angen gwneud hynny, bod gynnon ni’r potensial i fod yn wlad flaengar, gysylltiedig er ein problemau.