Mae’n bryd mynd i’r blaned Mawrth, meddai Prif Is-olygydd Golwg 360, Ifan Morgan Jones…
1981. Dyna’r flwyddyn yr oedd Nasa wedi meddwl glanio ar y blaned Mawrth. Ar ôl llwyddiant 1969, pan wnaeth Neil Armstrong gamu ar y lleuad am y tro cyntaf, roedd rhai o fewn yr asiantaeth ofod wedi rhagweld y byddai nhw’n troi eu golygon at y cam mawr nesaf. A, phe bai nhw’n cario ymlaen i ddatblygu ar yr un cyflymder, byddai’r gofodwr cyntaf ar y Blaned Goch erbyn dechrau’r 80au.
Yn anffodus, i NASA, mater o un cam mawr ymlaen, dau gam mawr yn ôl oedd glanio ar y lleuad. Ar ôl llwyddo i wireddu her Kennedy o lanio ar y lleuad erbyn diwedd y degawd, fe aeth pethau’n dawel. Doedd y llywodraeth ddim yn fodlon parhau i’w hariannu nhw ar yr un lefelau ac roedd rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar dargedau mwy daearol.
Y mis yma rydan ni wedi dathlu 40 mlynedd ers i ddyn gamu ar y lleuad – bron i hanner canrif, a does dim byd mor gyffrous wedi digwydd ers hynny. Dyw’r gwenoliaid gofod, na’r llong ofod rhyngwladol, ddim wedi llwyddo i ddal dychymyg y cyhoedd yn yr un ffordd.
Nawr, dw i’n deall nad ynghanol dirwasgiad yw’r amser gorau i ofyn am biliynau o ddoleri i roi dyn ar y blaned Mawrth. Fe gafodd $24 biliwn ei wario ar y rhaglen Apollo aeth â dyn i’r lleuad yn y lle cyntaf. Ond fe wnaeth o hefyd arwain, o fewn deg mlynedd, at rai o ddatblygiadau technolegol mwyaf cyffrous y ganrif ddiwethaf.
Yn y ffilm, The Third Man, mae cymeriad Orson Welles, Harry Lime, yn cyfeirio at y ffaith bod rhyfel a datblygiad technolegol yn mynd law yn llaw. Fe wnaeth yr Eidal ryfelgar greu Michelangelo, Leonardo da Vinci, a’r Dadeni, meddai. Fe gafodd y Swistir 500 mlynedd o heddwch a chreu’r cloc cwcw.
Roedd o’n anghywir – does dim angen rhyfel. Yr oll sydd angen i gael y gorau allan o’r ddynoliaeth yw her.
Roedd mynd i’r lleuad yn her. Ond er ei fod o’n un o gampau mwyaf y ganrif ddiwethaf, ac un fydd yn cael ei gofio am filoedd o flynyddoedd eto, roedd yr ymdrech i lanio ar y ddaear wedi ei yrru gan y rhesymau anghywir. Cystadleuaeth gyda’r Undeb Sofietaidd oedd o er mwyn gweld pwy oedd â’r roced fwyaf. Ac er bod y gofodwyr wedi dod “mewn heddwch ar gyfer y ddynoliaeth gyfan”, roedd codi fflag yr Unol Daleithiau yn fodd symbolaidd o ddangos mai eu buddugoliaeth nhw oedd hon.
Erbyn hyn mae gan Ewrop, China, Japan ac India raglenni gofod – yn ogystal â’r hen elynion – yr Unol Daleithiau a Rwsia. Mae China eisoes wedi dweud eu bod nhw’n ystyried cydweithio gyda’r Unol Daleithiau ar y gofod ac yn ei weld fel modd o wella’r berthynas rhwng y ddwy wlad. Does dim rheswm pam na allai taith i’r blaned Mawrth fod yn fenter ar y cyd.
Mae archwilio tiroedd newydd yn ein gwaed ni. Rydan ni’n ystyried hon yn oes sinigaidd, ond roedd etholiad Barack Obama yn llynedd yn dangos pa mor awyddus yw pobol i gael eu hysbrydoli. A byddai datganiad ganddo ef, fel Kennedy o’i flaen, bod dyn unwaith eto am geisio gwneud yr amhosib ac anelu am y sêr, yn ysbrydoli ac uno’r byd.