Un o ohebwyr Golwg 360, Malan Wilkinson, sy’n adolygu’r cylchgrawn newydd 32 tudalen am fro’r Eisteddfod, Wa-w!, fydd ar werth ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala…
Yn ngholofn golygyddol Wa-w!, mae Lowri Rees-Roberts yn datgan fod “tuedd i ystyried y cyfryngau print fel rhywbeth sy’n perthyn i ryw ddoe hen-ffasiwn”.
Ac a dweud y gwir, roeddwn i’n meddwl am eiliad fy mod i nôl yn yr wythdegau pan laniodd y cylchgrawn ar fy nesg. Roeddwn i’n disgwyl ei agor a gweld erthygl am Jabas Jones.
Er bod y cylchgrawn yn cael ei anelu at bobl o bob oed, nid dyma mae’r clawr yn ei gyfleu, yn anffodus. Mae’r cynllun lliw yn or-simplistig a phlentynnaidd a’r graffeg yn dipyn o gur pen.
Mae hynny’n drueni, gan fod y beiau hyn yn dueddol o fwrw hygrededd y cylchgrawn newydd cyn dechrau bron. Dyma ymdrech ‘liwgar’ – yn hollol lythrennol – i greu cylchgrawn bywiog a deniadol.
Mae’r cynnwys yn amrywiol ac yn ddifyr. O gyfweliadau gydag Elfyn Llwyd a Jen Jeniro i golofn doniol Collen B. Jones ‘Y Cymro gynt mewn sgert a brâ’, mae yna rywbeth i bawb yma – os ydych chi o’r Bala ai peidio.
Ceir amrywiaeth o erthyglau a chyfweliadau yn y cylchgrawn yn ogystal â phortread, cerdd, a thudalen ble mae’n rhaid i seleb orffen brawddeg – syniad difyr.
At ei gilydd, mae’n rhaid canmol iaith y cylchgrawn hefyd. Drwy ddefnydd iaith lafar, ymarferol a chreadigol, ceir ymdrech fywiog i beidio ag ynysu darllenwyr.
Y cwestiwn sydd rhaid ei ofyn yw faint o goesau sydd gan y cylchgrawn yma. Mae pawb enwog yng nghyffiniau’r Bala yn y rhifyn cyntaf, ac ambell i berson sydd ddim (yn enwog, nac yn y Bala).
A fydd modd cynhyrchu rhifyn ar ôl rhifyn heb iddi fynd yn ailadroddus? Dwi’n edrych ymlaen i weld.