Dai Lingual sy’n dadlau dros degwch i ieithoedd ar-lein.

Bydd yr erthygl hon yn cyrraedd eich sylw mewn iaith gweddol raenus dwi’n gobeithio, a hynny diolch i dechnoleg Cys-tal â “spellcheck”, a thrwy garedigrwydd staff Golwg wrth gwrs.

Ond, ar safleoedd cymdeithasol, rhaid imi gyfaddef mod i, r’un fath a phawb arall call, yn ceisio ysgrifennu yn y Gymraeg cymaint â phosib heb orfod estyn am y geiriadur.

Felly yn lle poeni os oes yna dreiglad meddal ar ôl “miwsig” er enghraifft, dwi’n tybio os yw dyn yn defnyddio’r Saesneg gwreiddiol “music”, nad oes angen treiglo. Er fy mod i’n gwybod fod “cerddoriaeth” (ac unrhyw enw yn gorffen â -aeth) yn fenywaidd, mae hynny’n ormod i deipio, hyd yn oed ar y Blackberry yn anffodus!

Cyhoeddi

Dwi newydd gyhoeddi ar y we mod i wrthi’n ysgrifennu’r darn yma am “arddangos music Cymreig ar y we”… cawn weld pa ymateb fydd tra mod i wrth y PC yndyfe.

A chofiwch chi taw cyhoeddi ydyn ni oll ar twitter, gan fod pob dim ar gael i unrhyw un sydd ar y we – oni bai am y bobl od yna sy’n trydar yn gudd…pe baech yn gwybod beth yw diben hynny ymatebwch isod os gwelwch yn dda!

Mae ambell ymateb wedi cyrraedd yn barod, ac mae’n ddiddorol gweld  bod gweddill y genedl yn trydar yr un fath – nid bratiaith ond iaith fyw, di-ofid. Y math o iaith sy’n hollol briodol i wefannau fel Twitter, ond na fyddwn i’n ceisio defnyddio yn y blog yma sydd ryw ychydig yn fwy ffurfiol, gan fy mod i wedi cael fy nhrwytho i osgoi pob math o idiom Saesneg.

Ond wedyn dwi’n teimlo weithiau mod i’n dueddol o ysgrifennu mewn ffordd sy’n osgoi creu treigliadau nad ydw i’n rhy hyderus yn eu cylch!

Gwastraff amser?

Er mwyn sicrhau tegwch, dwi newydd gyhoeddi’r un neges ar Facebook, a synnwn i ddim pe na bai unrhyw sylw o gwbl yno – rywsut mae Twitter yn llawer mwy rhyngweithiol erbyn hyn … oni bai am luniau Tashwedd wrth gwrs, sydd yn cyfiawnhau bodolaeth Facebook yn flynyddol!

Yn ogystal, roedd ‘na dipyn golew wedi rhoi sylwadau ar Facebook yr wythnos hon eu bod wedi mwynhau noson “Cwpwrdd Nansi” yn fawr, wrth i Carwyn Tywyn, Gildas ac Alaw ein hadlonni gyda’u cerddoriaeth werinol. Ambell un yn fwy gwerinol na’r llall wrth reswm!

Cefais i a Carwyn gyfle i gael sgwrs ddiddan wedi’r perfformiad [gweler/clywer isod], yntau’n cyfaddef taw marwolaeth ei dad a ysbrydolodd ambell i alaw ar ei CD newydd. Cytunon ni’n dau fod y ffordd mae Twitter yn benodol yn dod a phobol sydd â diddordebau tebyg ynghyd yn fantais fawr, er bod Carwyn Tywyn yn teimlo ei fod o bryd i’w gilydd yn gwastraffu gormod o amser yn dadlau am wleidyddiaeth ar y safle.  Yn bersonol, dydw i byth yn credu bod dadlau am wleidyddiaeth yn wastraff amser, ond dyna ni ychydig iawn o ddadlau gwleidyddol fydda i’n gwneud beth bynnag!

Steil

“A…chi yw Dai Lingual” yw’r ymadrodd dwi’n gallu bod yn falch o glywed ambell waith pan dwi’n cwrdd ag unigolion ag enwau cyfarwydd imi fel ddigwyddodd nos Fercher diwethaf.  Mae hyn megis rhyw fath o Gymru newydd, yn wahanol iawn i fy amser yn Aberystwyth wedi coleg yn cwrdd â gwirfoddolwyr gwych Cymreig Radio Ceredigion fel yr amaethydd amlwg Lloyd Jones:

“A pwy y chi te?…Beth yw’ch steil chi…?”

…sef yr enw teuluol wrth gwrs, ac yna esboniad o ba bentref daeth fy nhaid.  Yn bersonol, roedd hynny’n agoriad llygaid i un nad oedd byth wedi cael y cyfle i gwrdd â thad fy nhad…roedd gymaint o bobl dda cefn gwlad Ceredigion wedi clywed o waith y prifathro yn Ysgol Llwyncelyn fel mod i o’r diwedd yn teimlo mod i’n gallu uniaethu â’r gŵr bonheddig a syllai o lun du a gwyn ar y piano gartref.

Roedd hynny’n brofiad gwerthfawr, drudfawr, ond hefyd rhaid dweud fod adnabod rhywun o’u sylwadau ar y rhwydweithiau cymdeithasol yn llawer mwy democrataidd…meritocrataidd hyd yn oed, na pharchu rhywun oherwydd llwyddiannau ei gyndeidiau.

Fel mae’n digwydd, newydd glywed neithiwr gan fy ewythr sy’n bygwth symud yn ôl o ochr draw Môr yr Iwerydd, mai un o arweinwyr cyntaf Llangrannog oedd fy nhad-cu : Cymro i’r carn felly; ac un a frwydrodd yn galed i geisio cael y defnydd o ddwy iaith yn deg i bawb yng Ngheredigion yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd.

Er, annog ei gapel Methodistaidd i gynnwys Saesneg yn eu gwasanaethau yn fisol fel bod ei wraig ddi-gymraeg yn cael ei chynnwys oedd diben hynny.

Yw hi’n rhyfedd felly, mwy na 50 mlynedd wedi hynny, mod i’n treulio cymaint o fy amser yn ceisio annog yr union yr un peth – tegwch i’r ddwy iaith.

Pe baech am ymateb ynglŷn â cherddoriaeth Gymreig ar y we, croeso i chi nodi eich hoff wefannau isod felly, gan gofio fod “Lle Pawb” ar y wefan hon yn ofod i bob band Cymraeg hyrwyddo eu gweithgarwch.