Yn ei flog wythnosol, mae Dai Lingual yn holi os oes digon yn cael ei wneud i hybu ymwybyddiaeth o iselder…

Tymor diwethaf, cefais i’r fraint o ysgrifennu ambell bwt am Glwb Pêl Droed Caerdydd i Golwg360, pan nad oedd y term Adar Gleision yn un mor ddyrys .

Ym mis Hydref 2011, chwaraeodd CPD Caerdydd gêm oddi cartref yn Elland Rd ar noson pan roedd Leeds Utd yn ymfalchïo yn eu tîm diwethaf i ennill y Gynghrair*.  Sylwais ar Strachan, gofies i McAllister, ond am ryw reswm dydw i ddim yn cofio nawr a oedd Gary Speed yn un o’r rhai a gafodd eu cyflwyno i’r dorf y noson honno –  er ei fod yr un mor bwysig i lwyddiant y canol cae hwnnw ag oedd y ddau arall.

Un fel’na oedd Gary Speed. Pan oedd yn neud ei waith yn dda, prin oeddech chi’n sylweddoli ei fod yna’n twtio’r tîm gyda’i gyffyrddiad hyderus.

Ac mae pawb yn cofio’r diwrnod ofnadwy hwnnw pan ddaeth y neges nad oedd Gary Speed am barhau â’i fywyd. Dydw i ddim am godi bwganod am hynny, ond wir i chi, ers y diwrnod hwnnw beth yn union sydd wedi newid ynglŷn â’n hagwedd yng Nghymru at iechyd meddyliol yn ein cymdeithas?

Ac, yn benodol, a oes digon wedi cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth am iselder ysbryd gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ?

Ymwybyddiaeth

Nid ydw i’n honni nad oes dim byd wedi cael ei wneud o gwbl gan Mind a’r elusennau eraill, sydd wrth gwrs yn ceisio eu gorau glas i wella sefyllfa’r un ym mhob pedwar ohonom sy’n dioddef o iselder ysbryd.

Ond eto, rydw i wedi synnu nad ydw i fel defnyddiwr rheolaidd o wefannau cymdeithasol megis Facebook a Twitter wedi gweld dim yw dim am y pwnc wedi’i dargedu at gefnogwyr pêl-droed Cymru. Er bod o leiaf dwy filiwn ohonom ni’n cadw golwg weddol agos ar lwyddiannau – a ffaeleddau – ein tîm pêl-droed cenedlaethol.

Mae hynny ar ben y ffaith nad ydw i wedi gweld unrhyw ymgyrch yn y Gymraeg am y salwch hwn – a chredwch chi fi, rydw i’n dilyn digon o gefnogwyr Cymru, a Chymry Cymraeg (ac ambell un sy’n ffitio’n dwt i’r ddau gategori yna!) fyddai fel arfer yn hala mlaen y math yna o beth.

Mae’n siŵr i chi fod ambell un yn Mind ac efallai ambell un yn yr FAW wedi ystyried gwneud mwy, ond dwi ddim yn credu bod yn ddigonol nad ydw i, na channoedd o gefnogwyr eraill dwi’n cymryd, wedi cael ein targedu’n llwyddiannus ynglŷn ag iselder ysbryd.

Mae’n ddigon i beri dyn i deimlo bach yn drist i ddweud y gwir…

Wedi’r cwbl, dynion ifanc sy’n byw ar eu pen eu hunain sy fwyaf tebyg i ddioddef o iselder ysbryd difrifol sy’n arwain at hunanladdiad; sef proffil nifer fawr o gefnogwyr pêl-droed Cymru.

Croeso i chi ychwanegu isod yr holl wybodaeth ry’ chi wedi gweld ers marwolaeth Gary Speed am ymgyrchoedd mwy effeithiol na’r rhai sydd heb ddal fy sylw i. Dwi wedi ceisio cadw golwg am y math yma o beth, ond yn anffodus heb weld dim effeithiol ar-lein sydd a’i tharddiad yng Nghymru, mewn unrhyw iaith.

Wrth reswm, bydden i byth wedi dymuno gweld rheolwr ein tîm cenedlaethol yn marw, a bydden i ddim eisiau hynny ddigwydd i unrhyw reolwr ta waeth am y canlyniadau oddi cartref i’r dwyrain o’r hen Len Haearn! Ond, bydden i wedi gobeithio y byddai trychineb fel hon wedi hybu’r elusennau yn y maes i arloesi o Gymru yn eu hymgyrchoedd, nid dim ond efelychu ymdrechion eu pencadlys yr ochr draw i Glawdd Offa.

Fel ry’ ni yn dueddol o gydnabod o dro i dro, ma na bethau sy’n bwysicach na phêl-droed; ac yn anffodus dwi wir yn teimlo bod Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi colli cyfle go iawn i newid agweddau yn ystod y 12 mis diwethaf yma wedi i ni golli Speed cyn ei amser.

Fwdw Crŵ

Gan fy mod yn canolbwyntio ar fyd y bêl gron yr wythnos hon, mae’n siŵr y dylen i gyfaddef mod i wedi bod yn rhan o’r tîm gynhyrchodd y gân “Sgorio” sydd eisoes wedi cael ei chwarae ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru, ac yn wir ar raglen Adam Walton ar Radio Wales ar nos Sadwrn yn ddiweddar.

Prif leisydd y grŵp yw Iestyn Jones, a gallwch chi ddilyn ei hynt a helynt e’ yn nhudalennau’r Cymro wrth iddo “Ddeffro’r Ddinas” yn ei golofn wythnosol – dyna syniad da yndyfe medde fi.

Dwi’n hoff o’r peth ‘blues’ yna sy gen ti medde fe un noswaith pan o’n i’n credu ei fod yn chwilio am gân i ychwanegu i’w sioe standyp …roedd gen i gân ysgafn am oroesi dedfryd carchar, ac un arall ambiti bod yn rhy dew i redeg lan y rhiw hefyd!

Roeddwn i’n ddigon hapus i glywed bod y Fwdw Crŵ wedi ail-recordio’r gân Sgorio eleni, a gwenais i fy hunan bach pan glywais y fersiwn orffenedig gyda llais neb llai na Dylan Ebenezer arni…Cardi arall sy wedi bod yn rhedeg lan y rhiw lot dros yr haf o’i weld yn Lecwydd yn ddiweddar!

*Gallwch ddarllen yr erthygl wreiddiol am y gêm Leeds yma, a na, nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith bod teitl yr erthygl yna’n debyg iawn i eiriau cytgan “Sgorio” – cafodd yr erthygl a’r gân yna eu hysgrifennu tua’r un adeg y llynedd!

I barhau gyda’r thema gerddorol hefyd, fe gewch chi glywed finne’n canu i fy mab 16 mis yn ein podlediad wythnosol…