Mae Dai Lingual wedi bod yn cael trafferthion ar y ffyrdd yn y ddiweddar….

Nos Sadwrn ola’ Steddfod…Marc Griffiths ar y radio wrth yrru adref.  Marc fel ei arfer yn serennu yn ei rôl arferol o gyflwyno dewis ei wrandawyr ar Radio Cymru, ac mae yna dân sylweddol ar y ffordd o’n blaenau…

…aros ennyd, tân sylweddol? Ar y ffordd?

Gan fy mod yn nabod Marc ac ar y brif ffordd rhwng y Barri a’r Maes, roeddwn i’n teimlo fod e’n ddyletswydd arnaf i roi gwybod i’n gorsaf genedlaethol (fel Cymry Cymraeg hynny yw), ac fel mae’n digwydd roedd rhif ffôn y stiwdio gen i yn y ffôn lôn wedi taith arbennig o beryglus yn yr eira o Aber i Ynys Môn unwaith pan o’n i’n y sedd “shotgun” os mai hynny yw’r parlance cywir.

Ta waeth, nes i geisio cymryd ambell lun o ddiogelwch fy Seat cyn gweld ei bod hi’n amhosib cael llun deche yn y glaw.  Fy nghar i oedd ond y trydydd car i gyrraedd y tân, a doedd ddim modd gweld yn y tywyllwch beth  oedd wedi digwydd.  Wrth edrych yn ôl, falle y dylen i fod wedi dilyn yr ambell un oedd wedi troedio heibio’r tancyr oedd y tu blaen imi i gael golwg gwell, ond i ddweud y gwir dwi dal ddim yn siŵr beth oedd y lori yna’n cario yn y tanc!  Bydden i wedi cael llun o’r car afradlon ar dân wedyn ‘ny, yn hytrach na’r rhai o gar wedi ei ddiffodd ces i yn y wasg leol.* Ond doeddwn i ddim ar dân…i wneud hynny.

Bore Iau wedyn ‘ny, ro’n i ar fy ffor lan i Dalybont i recordio eitem o flaen llaw gyda’r Post Cyntaf am www.twitter.com/microsteddfod – yng nghwmni Sion o’r Llew Du sy’n mynd i gynnal noswaith i ddathlu llwyddiannau’r ardal yn yr Eisteddfod

Microsteddfod

Mae’n braf i’r newyddiadurwyr a’r pentref i gael Sioe Talybont a’r @microsteddfod i drafod wedi amser cythryblus yn ddiweddar. Mae hefyd yn bleser imi fel bachan lleol i’r pentref i gael ymgynghori rhywfaint ynglŷn â sut mae arddangos i Gymru gyfan fod y cyfnod hwnnw yn dechrau dirwyn i ben a bod y pentref ar agor i’r Sioe – ac felly hefyd i fusnes.

Sgwâr naturiol braf yw canol a chalon pentref Talybont, ac wrth gwrs mae’n hollbwysig cyfri’r Lolfa fel rhan annatod o gryfder diwylliannol y pentref hefyd!  Llongyfarchiadau gwresog i Robat Gruffudd a Dylan Iorwerth sydd wedi dod a chymaint o glod nôl i Ganolbarth Cymru ym mis Awst, ac unwaith bydd yna ddyddiad cyfleus i gôr Llancesi Dyfi i berfformio yn y Llew Du, byddai’n siŵr o’ch hysbysu oll. Cysylltwch hefyd os y’ chi’n nabod un o berfformwyr gorau’r ardal hoffai berfformio yn y noson…

Mae unrhyw debygrwydd rhwng @microsteddfod a’r daith mae enillwyr Bratin’s Got X yn gwneud wedi eu “llwyddiannau” a llwyfannau nhw yn hollol fwriadol gyda llaw.

Helynt

Ond, ro’n i’n weddol lwcus i gyrraedd Talybont mewn da bryd. Er nad ydw i’n un i hela helynt fel arfer (yn benodol: llosgfynyddoedd a chorwyntoedd ayyb), dim ond newydd gyrraedd Y Triongl 50 Milltir yr Awr rhwng Caerfyrddin a Llandysul o’n i pan welais i dancyr arall – wel falle taw lori gyffredin oedd hon te – wedi parcio ar draws y ffordd fawr.

Ie, wedi parcio ar draws y ffordd fawr – ei gwt yn sownd ar y bryn ger garej Olew Dros Gymru a’i phen yn y clawdd! Roedd y gyrrwr – a’i ben yn y sied a’r lori yn y sietyn – wedi rhoi’r gorau i geisio gyrru allan o’r safle parcio annaturiol ac yn siarad yn ei hyd ar y ffôn lôn (y to bach yna’n angenrheidiol i’r ystyr cywir!), a ddim hyd yn oed yn esgus ei fod am geisio adfer y sefyllfa.

Gan mod i’n ansicr am faint o amser oedd gen i cyn cwrdd yn y Black,  nes i osgoi’r temtasiwn i ffonio’r ferch leol Yvonne Evans gyda diweddariad…tan imi gyrraedd Llandysul pan wir i Dduw fe wnaeth y Seat ofyn am lwnc bach o betrol yn y garej yno.

Ac mae’n werth y daith bo tro o ardal Bro Radio i ochrau Radio Ceredigion (a Beca cyn bo hir!) i gael defnyddio iaith y wlad hon yn ddiffwdan a ddiseremoni gyda pherchnogion busnesau bach y wlad.  Fel medde’r amaethwr Lloyd Jones bob wythnos ar Radio Ceredigion yn ystod fy amser i yn yr ardal, prynwch yn lleol er mwyn cefnogi busnes lleol!

Ydy Osh wedi dechrau siarad eto? Nadi, Dadi.


*Dal i fod yn hoff tu hwnt o’r enwau mae’r wasg yn dueddol o ddefnyddio wrth ddisgrifio digwyddiadau ar-lein – mae’n sicr yn hwyluso’ch diwrnod o ran osgoi’r angen i fwrw golwg o unrhyw ongl dros yr erthygl i wybod be ddigwyddodd!