Cyflwynydd y BAFTAS Cymreig
Mae yna noson wobrwyo wych yng Nghaerdydd ddiwedd y mis, efo Alex Jones Hip neu Sgip yn comperio’r noson…

Na, fydda i ddim yn talu £75 am docyn i fynd i weld cyfryngis yn llongyfarch ei gilydd ddiwedd y mis. Ofiysli…

Ond ys gwn i faint o’r rhai hynny fydd bresennol, fydd wedi talu am eu tocyn eu hunain?

O gofio’r hit i gyllidebau’r BBC (rhewi’r drwydded = 16% yn llai o arian mewn termau real, + gorfod talu am y rhan fwyaf o S4C) a’r crebachu ciaidd ar bwrs S4C (gostyngiad o rywle rhwng 24 a 36%, yn dibynnu efo pwy’r ydach chi’n siarad) a oes yna bres ar ôl yn y citi i dalu am ffri-bi?

Mewn bywyd blaenorol roeddwn gyfryngi, ond ches i erioed fy machau ar y tocynnau am ddim i’r nosweithiau BAFTA. Dim bo fi wedi suro ynte Cariad!

O gofio mai arian cyhoeddus sy’n cynnal y BBC ac S4C, mi fydda hi’n rhesymol gofyn faint maen nhw’n wario ar docyns BAFTA.

Aeth Jamie i’r jêl…

Ond â difrifoli rhyw gymaint, aeth Jamie i’r jêl dros S4C – fydd o’n un o westeion arbennig bwrdd corfforaethol y Sianel?

‘Bwyd yn y BAFTAs i Bevan’ – mi fydda fo’n bennawd bachog ac yn good pr i’r Sianel sy’n ‘calon cenedl’.

Stori’r Cymry

Yn yr adroddiad blynyddol diwetha’ roedd BBC Cymru yn brolio fod dros 300,000 wedi gwylio rhaglen The Story Of Wales Huw Edwards – yr ail raglen fwya’ poblogaidd gan y BBC yng Nghymru, a honno wedi ei gwneud yma yng Nghymru.

O gofio ein bod yn byw mewn gwlad o dros dair miliwn o bobol, ydy’r ffaith fod 10% ohonyn nhw wedi gwylio The Story Of Wales yn destun dathliad?

Ffordd arall o edrych arni ydy dweud bod 90% o’r Cymry heb wylio un o raglenni mwya’ poblogaidd BBC Cymru y llynedd…hmmmm.