Mae yna bythefnos i fynd cyn y refferendwm ar ragor o ddatganoli ac mae Gwir Gymru eisoes wedi dechrau herio’r canlyniad ar sail nifer isel y pleidleiswyr.

Mewn cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg heddiw mae Rachel Banner, llefarydd y mudiad, yn dweud y bydd “pethau’n anodd” i’r ymgyrch ‘Ie’ pe bai nifer y pleidleiswyr yn syrthio dan 30%.

“Pe bai nifer y pleidleiswyr yn disgyn i 25%, byddai hynny’n codi cwestiynau difrifol,” meddai.

Byddai’r mwyaf sinigaidd yn ein mysg yn awgrymu mai cael y cyfle i godi amheuon fel hyn oedd diben Gwir Gymru wrth wrthod gwneud cais am arian y Comisiwn Etholiadol yn y lle cyntaf… Dan yr amgylchiadau byddai 25% yn pleidleisio yn nifer eithaf uchel.

Mae’r ymgyrch ‘Ie’ yn pryderu am hyn. Mae cadeirydd yr ymgyrch, Roger Lewis, wedi ysgrifennu at bob golygydd papur newydd yng Nghymru yn galw arnynt hwy i annog dadl ar y pwnc ymysg eu darllenwyr. Hynny yw, nid i wthio dadl yr ymgyrch ‘Ie’, ond i wthio unrhyw ddadl yn y gobaith y bydd pobol yn ymwybodol bod y refferendwm yn digwydd.

Efallai y dylid newid enwau’r ymgyrchoedd, i’r ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn pleidleisio.

Dadl

Ond a fyddai hi’n drychineb anferth pe bai nifer y pleidleiswyr yn is na 25%? Wedi’r cwbl, mae’r refferendwm ar fater mor ddibwys, bron a bod nad oes angen refferendwm o gwbl. Yr unig reswm ydan ni’n cynnal y refferendwm ydi bod cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi cynnwys un yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 er mwyn cadw ASau’r Blaid Lafur yn hapus. Pe bai’r newid wedi ei wneud heb i neb sylwi, liw nos, byddai 99% o’r wlad ddim callach y bore wedyn.

Ychydig iawn o’r bobol fydd yn pleidleisio ‘Ie’ a ‘Na’ fydd yn deall craidd y ddadl. Pe baech chi’n crybwyll Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ni fyddai’r rhan fwyaf llawer callach am beth ydych chi’n sôn. Ac er bod yr ymgyrch ‘Ie’ a ‘Na’ yn mynnu eu bod nhw eisiau dadl, dydyn nhw heb esbonio beth yn union mae’r ddadl amdano, chwaith.

Mae’r ymgyrch ‘Ie’ wedi seilio eu hymgyrch ar Shane Williams a Robin McBryde, gan ddadlau bod pleidlais o blaid yn fater o falchder cenedlaethol, fel gwisgo crys coch Cymru ar ddiwrnod y gêm.

Mae’r ymgyrch ‘Na’ yn rhybuddio mai cam cyntaf ar lwybr llithrig tuag at annibyniaeth yw’r bleidlais.

Iawn, dyw fideos YouTube sy’n son am symud o Ran 3 i Ran 4 deddf digon obscure ddim yn mynd i ddenu lot o ‘hits’. Ond o gofio mai refferendwm ar ddeddf digon obscure ydi hwn, ac nid refferendwm ar fodolaeth y Cynulliad, ni fydd nifer isel y pleidleiswyr yn fater o bwys tragwyddol chwaith.

Darogan

Heb son am y refferendwm, mae’n gwestiwn dilys hefyd a oes angen Etholiad Cynulliad arnom ni. Mae’r holl bolau piniwn yn dangos mai’r canlyniad anochel bron yw Llafur heb fwyafrif neu gyda mwyafrif rhy fychan i lywodraethu ar eu pennau eu hunain. Un o sgil effeithiau eironig system bleidleisio ‘mwy democrataidd’ Cymru yw bod clymbleidio bron yn anochel, ac felly y gwir benderfyniadau ynglŷn â phwy sy’n rhedeg y wlad yn cael eu gwneud gan y gwleidyddion. Mae hi bron yn sicr mai Cymru’n Un II (neu Gymru’n Ddau o bosib) fydd y canlyniad; hynny yw, Llafur a Phlaid Cymru yn clymbleidio eto.

Ond wrth weld y terfysg yn y Dwyrain Canol rhaid bod yn ddiolchgar am yr holl gyfleoedd i bleidleisio, a chymryd mantais ohonynt, amwn i!