Ifan Morgan Jones, Prif Is-olygydd Golwg 360, sy’n edrych ar y penderfyniad i roi Cwpan Rygbi’r Byd 2015 i Loegr…

Efallai na fydd nifer yn cytuno gyda fi – ond rhoi Cwpan y Byd i Loegr yn 2015 oedd y penderfyniad cywir.

Mae’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn cael ei ystyried yn dipyn o glwb hen ffrindiau sydd â mwy o ddiddordeb mewn cadw rygbi i’w hunain na’i ledaenu o amgylch y byd.

I rai, roedd y penderfyniad i roi Cwpan y Byd 2011 i Seland Newydd – wnaeth gynnal y gystadeluaeth gyntaf erioed ar y cyd gydag Awstralia – yn hytrach na Japan, yn anfaddeuol.

A nawr mae’r IRB wedi penderfynu cadw Japan yn disgwyl tan 2019 er mwyn i Loegr gael cynnal y bencampwriaeth eto – preaching to the converted, ys dywed y sais, go iawn.

Os yw rygbi am fod yn gêm fyd-eang, fel pêl-droed, bydd rhaid i’r arfer o wledydd yn rhoi pleidleisiau i’w gilydd i amddiffyn eu diddordebau eu hunain ddod i ben.

Ond, yn anffodus, er mwyn rhoi Cwpan y Byd i Japan roedd rhaid ei roi i Loegr gyntaf.

Does dim disgwyl i Gwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd fod yn llwyddiant. Mae’n rhy bell i’r mwyafrif o gefnogwyr deithio yno, yn wlad fechan gyda meysydd pitw, a bydd y rhan fwyaf o’r gemau yn cael eu chwarae pan mae gweddill y byd rygbi yn eu gwlâu.

Fel canlyniad mae disgwyl i’r Cwpan y Byd hwnnw wneud colled o £30m. Pe bai’r IRB yn mynd â’r Cwpan y Byd yn syth i Japan wedyn, a hwnnw ddim yn llwyddo, fe fyddent nhw mewn dyfroedd dyfnion.

Yr unig ddewis felly yw mynd â’r bencampwriaeth i Loegr, lle y cafodd rygbi ei dyfeisio. Yno mae’r mwyaf o gefnogwyr, y meysydd mwyaf, a bydd pob gêm yn cael ei chwarae ganol y prynhnawn amser Ewrop pan mae’r hysbysebion ar eu mwyaf costus.

Wrth gwrs, fe allai’r IRB fod wedi rhoi’r bencampwriaeth i Dde Affrica, yr unig gynnig arall gwerth chweil. Ond o ystyried eu anallu i werthu pob tocyn i gemau’r Llewod, neu’r gêm yn erbyn Seland Newydd dros y penwythnos, doedd y syniad ddim yn apelio.

Yn ogystal â hynny yw’r teimlad bod Japan, ar hyn o bryd, yn bell ar ei hôl hi fel tîm rygbi. Dim ond y 14eg allan o 95 tîm yn y byd ydyn nhw, ond mae’r gagendor rhwng y timau ar y brig a’r rhai pellach i lawr yn anferth.

Pe bai Japan wedi cynnal y gystadleuaeth yn 2011 neu 2015 dyna fyddai’r Cwpan y Byd cyntaf ble nad oedd hi’n bosib i’r tîm oedd yn cynnal y bencampwriaeth ennill. A dweud y gwir, fyddai Japan heb adael eu grŵp.

Mae rhoi deg mlynedd o rybudd iddyn nhw yn rhoi cyfle i’r tîm daclo safon eu rygbi. Maen nhw’n cael eu nabod fel ‘gwlad yr haul sy’n codi’ ar hyn o bryd, a bydd hi’n rhaid iddyn nhw godi eu safon yn eithaf cyflym dros y blynyddoedd nesaf os ydyn nhw am osgoi’r embaras sydd mor wrthun iddyn nhw fel cenedl.

Lloegr amdani felly. Ac mae’n siŵr y ceith Cymru ambell i gêm hefyd, gan arddangos unwaith eto ein gallu cameleonaidd i droi’n rhan o Loegr pan mae’n siwtio.

Er ein bod ni’n cwyno am y clwb hen ffrindiau, dyma fyddai’r pedwerydd Cwpan y Byd allan o saith i gynnwys gemau yng Nghymru.

Beth bynnag ein ffawd yng Nghwpan y Byd – does yna neb yn chwarae’r gêm yn well na ni.