Fe gafodd dwsinau o bobol eu hanafu wrth i fom car ffrwydro gerllaw canolfan heddlu yn ninas Burgos yng ngogledd Sbaen.

Yn ôl y llywodraeth ranbarthol, roedd 38 o bobol wedi gorfod mynd i’r ysbyty ar ôl y ffrwydrad yng nghenf adeilad y gwarchodlu sifil ac mae Swyddfa Faterion Mewnol Madrid eisoes wedi rhoi’r bai ar y mudiad Basgaidd, ETA.

Doedd y gwasanaethau brys na’r heddlu ddim wedi derbyn unrhyw rybudd am y ffrwydrad, ond “roedd gan y digwyddiad holl olion ETA,” mewddai’r gweinidog rhanbarthol Miguel Alejo.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Avui yng Nghatalunya, roedd y car yn cynnwys tua 200 kilo o ffrwydron ac wedi ei barcio o fewn 16 metr i’r ganolfan ers prynhawn dydd Mawrth.

Burgos oedd prifddinas Sbaen ar un amser. Mae’n ddinas hanesyddol gyda tua 178,000 o drigolion yn byw ynddi.

Llun: Avui yn adrodd yr hanes