Fe gafodd tair gwaith yn fwy o yrwyr eu profi am yfed a gyrru yn ystod ymgyrch arbennig heddluoedd Cymru tros yr haf.

Fe gafodd 35,000 o bobol eu profi yn ystod yr ymgyrch a gynhaliwyd trwy gydol mis Mehefin – o’i gymharu â dim ond 12,000 y flwyddyn gynt.

Yn ardal Heddlu De Cymru yr oedd y canlyniadau gwaetha;

• Heddlu De Cymru – cynnal 4,188 o brofion gyda 283 yn bositif (6.75%)
• Heddlu Gwent – cynnal 20,772 o brofion gyda 124 yn bositif (0.59%)
• Heddlu Dyfed Powys – cynnal 3,426 o brofion gyda 199 yn bositif (3.47%)
• Heddlu Gogledd Cymru – 6,961 o brofion gyda 125 yn bositif (1.79%)

Yn dilyn cyhoeddi’r ystadegau, fe ddywedodd Heddlu De Cymru y byddent nhw’n “parhau yn weithio i dargedu gyrwyr sy’n yfed”.

O’r 2,500 o bobol sy’n cael eu lladd bob blwyddyn ar ffyrdd Llogr a Chymru, mae’r heddlu’n dweud fod o leia’ 460 yn gysylltiedig ag alcohol.

Llun (John Giles – Gwifren PA)