Yr wythnos ddiwethaf fe gyflwynwyd Kinga Uszko i ddarllenwyr Golwg360. Mae Kinga yn fyfyrwraig o Brifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl sy’n treulio cyfnod ar leoliad gwaith gyda chwmni Golwg. Dyma ychydig bach mwy o’i hanes…

Dw i’n dod o dre fach yn Silesia Isel – Czarny Bór. Mae hi’n agos at Wroclaw ac yn agos at y Weriniaeth Siec hefyd.

Dw i’n dod o deulu bach – mae fy mam yn dod o Lipnica, ger Rzeszów yn ne-ddwyrain Gwlad Pwyl. Mae hi’n dod o deulu enfawr gyda tri o frodyr a phedair chwaer. Mae hi’n dod o deulu o ffermwyr ac fe ddaeth i Czarny Bór pan oedd hi tua ugain oed.  Roedd hi’n arfer gweithio fel glanhawraig ond mae’n sâl ar hyn o bryd a  does dim modd iddi  weithio bellach.

Mae fy mam ar ei phensiwn ac mae fy nhad ar ei bensiwn gan ei fod e’n 75  mlwydd oed. Mae fy nhad yn dod o Latvia’n wreiddiol. Mae e wedi dweud wrtha i bod rhaid iddo fe a’i dad ffoi o’u cartref gan fod fy nhad-cu yn filwr ac roedd llawer o elynion gydag ef gan mai Pwylwr oedd e. Dyna pam roedd rhaid iddyn nhw i ffoi o Latfia gyda dim mwy nag un cês o ddillad a dim ffotograffau nag eiddo personol.

Cyrhaeddon nhw Nowy Sącz ond doedd dim gwaith i fy nhad-cu a phenderfynodd ef i fynd i Czarny Bór. Ymsefydlodd mewn garddwriaeth ac roedd tai gwydr enfawr gydag ef, ond fe fethodd y busnes.

Dw i ddim yn gwybod llawer am fu nheulu gan nad oedd fy nhad eisiau siarad am y peth. Mae e’n credu nad oes rhaid iddo fe gofio nac aros mewn cysylltiad gyda theulu gan fod pobl dim ond am fanteisio arno.  Dwi ddim yn cytuno gydag ef, ond dw i ddim yn gallu ei orfodi i gofio.

Mae un chwaer ac un brawd gyda fi. Maent ddeuddeg mlynedd yn hŷn na fi ac o achos hynny roedd pawb yn meddwl mai fy mrawd a’m chwaer oedd fy rhieni.

Beth am fy chwaer felly? Athrawes yw hi. Mae hi’n dysgu mathemateg a thechnoleg gwybodaeth mewn ysgol uwchradd yn Czarny Bór. Mae gŵr a dau blentyn gyda hi.

Pensaer yw fy mrawd. Mae gwraig ac un plentyn gydag ef. Mae fy chwaer a’m brawd yn byw ar bwys fy rhieni yn Czarny Bór ac maent yn helpu ei gilydd.

Ond mae un aelod o’r teulu nad ydw i wedi trafod eto sef fy mam-gu. Mam fy mam yw hi ac mae’n byw ar ben ei hun yn Lipnica ger Rzeszów ac yn 92 oed.  Dw i ddim wedi gweld hi ers pan oeddwn i’n 10 oed, felly ers 15 mlynedd. Dw i ddim yn ei chofio hi’n dda ond rydw i eisiau mynd i’w gweld un diwrnod.

Nawr, mae fy nheulu agos yn aros i mi ddechrau teulu fy hun, ond mae na broblem – dwi eisiau bod yn ymchwilydd, nid gwraig tŷ!