Mae dyn wedi’i ddedfrydu i garchar am oes wedi iddo ei gael yn  euog o ladd ei ffrind ac yna mynnu ei fod yn cael ei lun wedi ei dynnu gydag o.

Ymosododd William Rogers ar David Eves, 43, yn ei fflat ym Maglan, Port Talbot gan dorri 52 o’i esgyrn. Bu farw’n ddiweddarach o’i anafiadau.

Clywodd y llys fod Rogers wedi stopio ar ganol yr ymosodiad, cynnau sigarét, ei rhoi i David Eves a gofyn i ddau ffrind dynnu llun ohono yn dal pen ei ddioddefwr cyn parhau i’w guro i farwolaeth.

Cafodd y ddau ddyn dynnodd y llun eu harestio ond ni chynigwyd unrhyw dystiolaeth yn y llys.

Cyfaddefodd William Rogers, 45, i lofruddiaeth a chafodd ei ddedfrydu i oes – bydd yn gorfod aros dan glo am o leiaf 16 mlynedd ac wyth mis.